Mae’r actores Mindy Kaling wedi dweud bod buddsoddi yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe yn “dipyn o antur” iddi.
Gwnaeth ei sylwadau wrth iddi ymddangos fel gwestai ar raglen Lorraine ar ITV heddiw, ynghyd â Reese Witherspoon ac Oprah Winfrey.
Mae’r Americanes yn un o gonsortiwm o Americanwyr sydd wedi buddsoddi yn yr Elyrch ar ôl i Steve Kaplan a Jason Levien lwyddo i sicrhau rheolaeth dros y clwb.
Yn ystod y cyfweliad heddiw, dywedodd Mindy Kaling ei bod hi’n cefnogi’r clwb o bell wrth iddyn nhw frwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall. Ar hyn o bryd, maen nhw’n bedwerydd ar ddeg yn y tabl, bedwar pwynt uwchlaw’r tri isaf.
“Mae pêl-droed yn gamp anhygoel,” meddai Mindy Kaling.
“Dw i’n credu yn y tîm hwn, a dw i’n credu ei fod yn ddewis clyfar. Dw i ddim yn credu ei fod yn mynd i unman.
“Gallwn i fod wedi dewis rhywbeth yn nes at adref. Ond dw i’n credu ei bod yn antur.”