Dywedodd rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal fod yr Elyrch wedi chwarae “ag 11 brawd” ar y cae wrth guro West Ham o 4-1 yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe.
Y brodyr go iawn, Andre a Jordan Ayew arweiniodd y ffordd o’r blaen wrth i’r Elyrch sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf y tymor hwn i’w codi i’r trydydd safle ar ddeg yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Andre ynghlwm wrth dair gôl yn erbyn ei hen glwb, a sgoriodd Jordan y bedwaredd gôl o’r smotyn. Ki Sung-yueng a Mike van der Hoorn sgoriodd y ddwy gôl arall, cyn i Michail Antonio rwydo i’r ymwelwyr.
Hon hefyd oedd eu seithfed buddugoliaeth gartref o’r bron – y tro cyntaf iddyn nhw gyflawni hynny ers 2004.
Dywedodd Carlos Carvalhal: “Roedd gyda ni ddau frawd ar y cae, ond roedd hi’n edrych fel pe bai gyda ni 11 o frodyr allan yna – a mwy, os oedd eu hangen nhw.
“Mae gyda ni ymroddiad da yma a theulu da. Pan ydych chi’n teimlo’n gryfach gyda’ch gilydd, mae’n deimlad positif iawn.
“Y perfformiad hwn oedd yr un gorau ers i fi gyrraedd, yr un oedd agosaf at yr hyn rwy eisiau ym mhob ffordd – trefn amddiffynnol, symudiadau, chwarae gosod hefyd.”
‘Roc a rôl’
Dychwelodd yr Elyrch i’r gwaelodion ar ôl colli o 4-1 yn erbyn Brighton yr wythnos ddiwethaf, ond maen nhw wedi ennill 17 pwynt allan o naw gêm y rheolwr wrth y llyw.
Ychwanegodd Carlos Carvalhal: “Roedd hi’n roc a rôl yn y stadiwm. Weithiau rydych chi’n dawnsio i gerddoriaeth eich gwrthwynebwyr, fel y gwnaethon ni wrth herio Lerpwl ac Arsenal.
“Ond fe wnaethon ni chwarae ein cerddoriaeth ni ein hunain a dw i’n hapus iawn gyda’r fuddugoliaeth.
“Fe chwaraeon ni â dwyster a dyna pam y cymerodd hi dipyn i King ac [Andre] Ayew i baratoi.
“Weithiau mae’n cymryd tair neu bedair wythnos, ond heddiw fe chwaraeon ni yn y modd yr ydyn ni’n ymarfer.”