Mae rownd wyth olaf cwpan Cymru yn cael ei chynnal dros y penwythnos (os bydd y tywydd yn caniatau) gyda thair gêm yn cynnwys chwech o glybiau Uwch Gynghrair Cymru.
Y gêm fyw ar y teledu ddydd Sul ydi honno rhwng Bangor a Phenydarren BGC o bumed haen pyramid pêl droed Cymru.
Fe fydd llawer yn gobeithio am gêm gyffrous arall ar Barc Waun Dew ar ôl diweddglo dydd Sul diwethaf pan sgoriodd Caerfyrddin ddwy gôl hwyr i unioni’r sgôr 3-3 yn erbyn ei gwrthwynebwyr, Aberystwyth. Gyda’r ddau glwb yn brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, tybed a fydd gêm gwpan yn rhoi cyfle i’r clybiau anghofio am y frwydr am un diwrnod?
Bydd Llandudno yn herio tîm Chris Hughes, Y Drenewydd ac mae rheolwr Llandudno, Iwan Williams, a phroblemau anafiadau: “Rydan ni’n eithaf lawr ar niferoedd, ond yn hyderus o geisio cael y clwb i’r rownd gynderfynol am y tro cyntaf yn ein hanes,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n mynd i fod yn dasg anodd gan fod ni wedi colli dwywaith yn barod iddynt y tymor hwn, ond mae hynny’n meddwl fod arnom ni un iddynt, felly gobeithio mai dydd Sadwrn yma mai ni fydd yn dathlu.
“Mae’n rhaid i fi son hefyd am faint o falch rydan ni fel clwb bod Toby Jones wedi’i ddewis i garfan Cymru C, mae ei berfformiadau ers i mi ddod i’r clwb wedi bod yn gyson.”
A dau glwb sy’n cwrdd am yr ail wythnos yn olynol ar Lannau Dyfrdwy ydi Cei Connah a’r Seintiau Newydd. Fe fydd Cei Connah yn sicr eisiau dial ar ôl y golled 0-1 y penwythnos diwethaf.
“Ar ôl ddwy golled yn olynol ac wedi disgyn i’r bedwerydd safle, mae’n golygu bod gêm dydd Sadwrn yn bwysig ar gyfer y ras am Ewrop.”meddai Jake Phillips wrth golwg360.
“Roedd yn gêm wythnos diwethaf , roedden yn siomedig iawn ar ddiwedd y gêm, felly rydan yn hyderus cawn y canlyniad i fynd drwodd i’r rownd cyn derfynol. Mae’n gystadleuaeth baswn i ar glwb yn hoff iawn o’i ennill.”