Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi canmol “y cig ar y barbeciw” oedd wedi helpu ei dîm i sicrhau buddugoliaeth bwysig o 1-0 dros Burnley yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe.

Mae’r canlyniad yn codi’r Elyrch i’r pymthegfed safle wrth iddyn nhw geisio dringo i ffwrdd o’r safleoedd disgyn gyda rhediad di-guro o naw gêm erbyn hyn. Mae bwlch o ddau bwynt rhyngddyn nhw a’r tri safle isaf erbyn hyn.

Rhwydodd y chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng am y tro cyntaf ers 2016 i helpu ei dîm wyth munud cyn y diwedd, a hynny ar ôl i’r tîm fynd yn fwy ymosodol wrth i Andre Ayew ddod i’r cae am y tro cyntaf ers dychwelyd o West Ham am £18 miliwn. Ac fe ddaeth Tammy Abraham i’r cae yn hwyr yn y gêm hefyd.

Roedd y brodyr Ayew [Andre a Jordan] yn edrych yn fygythiol ochr yn ochr ag Abraham wrth i’r Elyrch bwyso am y gôl fuddugol.

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd Carlos Carvalhal: “Mae gyda ni ddywediad ym Mhortiwgal ar adegau fel yr un gawson ni yn yr ail hanner. Ry’n ni’n dweud ei bod hi’n bryd rhoi’r holl gig ar y barbeciw.

“Fe wnaethon ni hynny er mwyn ceisio ennill – ac fe gawson ni’r triphwynt. Ond ro’n i’n teimlo ein bod ni’n eu haeddu nhw yn erbyn tîm cryf iawn a dw i’n falch iawn o fy chwaraewyr.

“Mae Burnley yn dîm anodd i’w curo, y trydydd tîm mwyaf amddiffynnol yn y gystadleuaeth, felly doedd hi ddim yn hawdd sgorio.

“Ond yn yr ail hanner, roedd fy chwaraewyr wir eisiau ennill – ac fe geision ni eu helpu nhw i wneud hynny gyda’r chwaraewyr wnaethon ni eu rhoi ymlaen.”

Carlos Carvalhal v Paul Clement

Mae gan Carlos Carvalhal fwy o bwyntiau (14) mewn saith gêm ers i Carlos Carvalhal gael ei benodi fis Rhagfyr nag a gafodd tîm Paul Clement mewn ugain o gemau (13).

Mae’r tro ar fyd wedi codi’r Elyrch o waelod y tabl, bum pwynt i ffwrdd o ddiogelwch ar ddiwedd mis Rhagfyr i safle parchus sy’n rhoi llygedyn o obaith i’r tîm gydag unarddeg gêm yn weddill.

Ond yn ôl Carlos Carvalhal, mae pennau’r Elyrch uwchben y dŵr erbyn hyn.

“Pan gyrhaeddon ni, roedden ni’n ddwfn iawn yn y môr. Roedd yn ddwfn iawn ac yn dywyll. Welson ni’r un pysgodyn.

“Enillon ni ambell gêm i godi’n trwynau allan o’r dŵr – dyna’r tro cyntaf i ni arogli’r awyr iach.

“Nawr, yn y foment hon, ry’n ni wedi dechrau nofio a gallwn ni fynd at y lan.

“Ond rhaid i ni barhau i nofio i gyrraedd yr arfordir.”