Wrecsam 1–1 Halifax                                                                        

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Wrecsam groesawu Halifax i’r Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Scott Boden y Dreigiau ar y blaen cyn i Scott McMannus unioni i’r ymwelwyr a gorffennodd Wrecsam y gêm gyda deg dyn wedi cerdyn coch i Paul Rutherford.

Deunaw munud a oedd wedi mynd pan beniodd Boden y Cymry ar y blaen o gic gornel Kevin Roberts.

Felly yr arhosodd hi tan funud olaf yr hanner pan sgoriodd McManus yn dilyn cic gornel i’r ymwelwyr.

Ni chafwyd mwy o goliau yn yr ail hanner ond cafwyd peth cyffro ddeg munud o’r diwedd. Roedd Rutherford yn meddwl ei fod yn gadael y cae fel eilydd ond derbyniodd ail gerdyn melyn a chael ei anfon o’r cae gyda cherdyn coch!

Canlyniad siomedig i Wrecsam felly yn erbyn tîm o’r gwaelodion ac mae’r Dreigiau’n llithro i’r ail safle wrth i Macclesfield godi drostynt i frig y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Deverdics (Quigley 61’), Wedgbury, Pearson, Holroyd, Rutherford, Kelly, Roberts, Boden

Gôl: Boden 19’

Cardiau Melyn: Rutherford 45+1’, 81’

Cerdyn Coch: Rutherford 81’

.

Halifax

Tîm: Johnson, Moyo, Brown, Oliver (Clarke 89’), Kosylo, Garner, Fenton, McManus (Duckworth 48’), MacDonald (Tuton 71’), Hibbs, Collins

Gôl: McManus 45’

Cardiau Melyn: Moyo 65’, Kosylo 80’

 

.

Torf: 4,998