Dydy chwaraewr canol cae newydd Abertawe, Andy King ddim yn credu ei bod hi’n “rhyfedd” nad oes gan y clwb chwaraewyr o Gymru’n chwarae’n gyson yn y tîm cyntaf.
Fe fu’r Cymro’n siarad â golwg360 ar ôl symud ar fenthyg o Gaerlŷr am weddill y tymor, gan ddweud nad yw’n teimlo ei fod yn “chwifio’r faner ar ran chwaraewyr o Gymru”.
Er bod Connor Roberts a Daniel James yn ddau Gymro a chwaraeodd yn erbyn Notts County ganol yr wythnos, does dim Cymry eraill yn gyson yn y brif garfan ers i Ashley Williams, Ben Davies a Joe Allen adael.
“Pe bawn i wedi dod o rywle lle’r oedd tipyn o chwaraewyr o Gymru o’i gymharu â nawr, yna mae’n bosib y byddai’n ymddangos yn rhyfedd,” meddai. “Ond dydy hi ddim.
“Mae criw da o fois yma, maen nhw wedi estyn croeso cynnes i fi. Maen nhw’n chwaraewyr da felly mae popeth wedi bod yn dda.”
Balch o’r cyfle
Symudodd Andy King i Abertawe ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ar ôl clywed na fyddai’n chwarae rhan allweddol yn nhîm rheolwr newydd Caerlŷr, Claude Puel.
Ac mae’n cyfaddef ei fod yn “nerfus” wrth aros i glywed a fyddai’n cael symud i glwb newydd am weddill y tymor.
“Fe fu diddordeb yno ers y dechrau, ond dydych chi byth yn siŵr pan mae’r cyfan yn dod i lawr i ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo a ddim yn digwydd yn gynharach yn y mis.
“Roedd hi’n bwysig i fi [symud] oherwydd do’n i ddim eisiau aros tan ddiwedd y tymor i weld beth fyddai’n digwydd. Ond fe ddaeth y cyfan i ben ganol y prynhawn, felly roedd hynny’n iawn.”
Holi barn
Mae’n cyfaddef ei fod e wedi holi barn nifer o chwaraewyr am Abertawe cyn iddo symud, ac yntau wedi chwarae gyda Nathan Dyer a Kyle Naughton yng Nghaerlŷr yn y gorffennol, ac Ashley Williams, Ben Davies a Neil Taylor yn nhîm Cymru.
“Maen nhw bob amser wedi canu clodydd y clwb, ac mae Ashley Williams a Neil Taylor wedi fy helpu i hefyd. Dw i wedi gweld a chlywed pethau da dros y blynyddoedd, ac ro’n i’n hapus i ddod yma.”
Mae Andy King yn cyfaddef nad yw’n gwybod eto a oes gan yr Elyrch opsiwn i’w ddenu i Gymru’n barhaol, ond mae’n gwadu bod y cyfnod ar fenthyg yn gyfle i’w roi ei hun “yn ffenest y siop”.
“Fel rhywun sydd wedi chwarae cymaint o bêl-droed, dw i ddim yn teimlo ’mod i yn ffenest y siop. Mae pobol yn gwybod beth dw i’n gallu ei wneud, pa un a fyddwn i wedi dod yma neu beidio.
“Yn hytrach, mae’n fater o gael targedau personol a chyflawni nod. Mae’r nod wedi newid o Gaerlŷr i geisio cadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair, a gobeithio y galla i wneud hynny.”
Gair o gyngor
Mae Andy King wedi ennill tlws pob adran gyda Chaerlŷr dros gyfnod o fwy na degawd, ac mae e hefyd wedi profi siom wrth ddisgyn i adrannau is.
Mae’n gweld tebygrwydd rhwng hynt Leicester City y llynedd ac Abertawe eleni – roedd y tîm o Gaerlŷr hefyd mewn peryg nes cael rhediad da.
“Hyd yn oed y llynedd, doedden ni [Caerlŷr] ddim yn ddiogel. Fe gawson ni rediad da o gemau ac fe gafodd hynny effaith caseg eira. Dw i’n gweld hynny yma.”
Mae Abertawe wedi cael wyth gêm heb golli yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Apêl at y cefnogwyr
“Rhaid i chi aros gyda’ch gilydd fel tîm, fel carfan, fel dinas,” meddai Andy King. “Mae’n rhaid i’r cefnogwyr aros gyda’r tîm hefyd oherwydd mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth wrth fynd allan i’r cae gan wybod fod pawb y tu ôl i chi.
“Momentwm yw’r peth mawr. Does yna’r un gêm hawdd. R’yn ni newydd guro Lerpwl ac Arsenal ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y byddwch chi’n ennill y gêm nesaf yn erbyn rhywun sy’ ddim yn glwb mor fawr. Dydy’r Uwch Gynghrair ddim yn gweithio fel’na.
“Felly mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n barod am bob gêm, gwneud yn siŵr eich bod chi’n teimlo’n hyderus, a gweld lle mae hynny’n mynd â chi.”