Dydi chwaraewr canol cae newydd Abertawe, Andy King, ddim yn credu ei bod hi’n “rhyfedd” nad oes gan y clwb chwaraewyr o Gymru’n chwarae’n gyson yn y tîm cyntaf.

Fe fu’r Cymro’n siarad â golwg360 ar ôl symud ar fenthyg o Gaerlŷr am weddill y tymor, gan ddweud nad yw’n teimlo ei fod yn “chwifio’r faner ar ran chwaraewyr o Gymru”.

Symudodd Neil Taylor o Abertawe i Aston Villa flwyddyn yn ôl a does yna’r un Cymro wedi chwarae’n gyson i’r tîm ers hynny, er bod Connor Roberts a Daniel James ar y cyrion. Mae Ashley Williams, Ben Davies a Joe Allen ymhlith y chwaraewyr o Gymru fu’n chwarae’n gyson ar adegau gwahanol ers i’r Elyrch fod yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Dywedodd Andy King: “Fyddwn i ddim yn dweud ei bod yn rhyfedd. Do’n i ddim yma pan oedd y chwaraewyr Cymreig yma, felly dw i ddim yn teimlo’r ffaith nad oes cynifer ohonyn nhw yma.

“Doedd yna fawr o Gymry yng Nghaerlŷr heblaw amdana i. Roedd Tom Lawrence yno ond roedd e allan ar fenthyg ran fwya’r amser.

“Pe bawn i wedi dod o rywle lle’r oedd tipyn o chwaraewyr o Gymru o’i gymharu â nawr, yna mae’n bosib y byddai’n ymddangos yn rhyfedd. Ond dydy hi ddim.

“Mae criw da o fois yma, maen nhw wedi estyn croeso cynnes i fi. Maen nhw’n chwaraewyr da felly mae popeth wedi bod yn dda.”

Ond fe ddywedodd, fel Cymro, ei fod yn “gobeithio helpu i gynnal” statws yr Elyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Symud i Abertawe

Symudodd Andy King i Abertawe ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ar ôl clywed na fyddai’n chwarae rhan allweddol yn nhîm rheolwr newydd Caerlŷr, Claude Puel.

Ac mae’n cyfaddef ei fod yn “nerfus” wrth aros i glywed a fyddai’n cael symud i glwb newydd am weddill y tymor.

“Fe fu diddordeb yno ers y dechrau, ond dydych chi byth yn siŵr pam fod y cyfan yn dod i lawr i ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo a ddim yn digwydd yn gynharach yn y mis.

“Ro’n i’n falch i gael y cyfan wedi’i sortio yn y pen draw a chael bwrw iddi.

“Mae yna nerfau pan ddaw i lawr i ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, yn enwedig i rywun yn fy sefyllfa i oedd ddim yn chwarae. Roedd hi’n bwysig i fi [symud] oherwydd do’n i ddim eisiau aros tan ddiwedd y tymor i weld beth fyddai’n digwydd. Ond fe ddaeth y cyfan i ben ganol y prynhawn, felly roedd hynny’n iawn.”

Mae’n cyfaddef ei fod e wedi holi barn nifer o chwaraewyr am Abertawe cyn iddo symud, ac yntau wedi chwarae gyda Nathan Dyer a Kyle Naughton yng Nghaerlŷr yn y gorffennol, ac Ashley Williams, Ben Davies a Neil Taylor yn nhîm Cymru.

“Maen nhw bob amser wedi canu clodydd y clwb, ac mae Ashley Williams a Neil Taylor wedi fy helpu i hefyd. Dw i wedi gweld a chlywed pethau da dros y blynyddoedd, ac ro’n i’n hapus i ddod yma.”

Symud yn barhaol?

Mae Andy King yn cyfaddef nad yw’n gwybod eto a oes gan yr Elyrch opsiwn i’w ddenu i Gymru’n barhaol, ond mae’n gwadu bod y cyfnod ar fenthyg yn gyfle i’w roi ei hun “yn ffenest y siop”.

“Fel rhywun sydd wedi chwarae cymaint o bêl-droed, dw i ddim yn teimlo ’mod i yn ffenest y siop. Mae pobol yn gwybod beth dw i’n gallu ei wneud, pa un a fyddwn i wedi dod yma neu beidio.

“Yn hytrach, mae’n fater o gael targedau personol a chyflawni nod. Mae’r nod wedi newid o Gaerlŷr i geisio cadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair, a gobeithio y galla i wneud hynny.”

Gair o gyngor

Mae Andy King wedi ennill tlws pob cynghrair gyda Chaerlŷr dros gyfnod o fwy na degawd, ac mae e hefyd wedi profi siom wrth ddisgyn o adrannau.

Mae’n dod i Abertawe ar adeg pan fo’r clwb yn brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, ac wedi cael rhediad bellach o wyth o gemau’n ddi-guro o dan y rheolwr newydd Carlos Carvalhal.

“Hyd yn oed y llynedd, doedden ni [Caerlŷr] ddim yn ddiogel. Fe gawson ni rediad da o gemau ac fe gafodd hynny effaith caseg eira. Dw i’n gweld hynny yma.

“Rhaid i chi aros gyda’ch gilydd fel tîm, fel carfan, fel dinas. Mae’n rhaid i’r cefnogwyr aros gyda’r tîm hefyd oherwydd mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth wrth fynd allan i’r cae gan wybod fod pawb y tu ôl i chi. Dyna sydd wedi digwydd bob tro dw i wedi chwarae yma, fe fu’n lle anodd i ddod erioed.

“Mae sawl gêm gartref gyda ni y gallwn ni eu hennill, felly os gallwn ni wneud hynny’n gywir, byddwn ni bron iawn yna.

“Momentwm yw’r peth mawr. Does yna’r un gêm hawdd. Ry’n ni newydd guro Lerpwl ac Arsenal ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y byddwch chi’n ennill y gêm nesaf yn erbyn rhywun sy’ ddim yn glwb mor fawr. Dydy’r Uwch Gynghrair ddim yn gweithio fel’na.

“Felly mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n barod am bob gêm, gwneud yn siŵr eich bod chi’n teimlo’n hyderus, a gweld lle mae hynny’n mynd â chi.”