Doedd Clwb Pêl-droed Caerfyrddin “ddim yn ymwybodol o dwyll” eu cyn-reolwr, Mark Aizlewood, a gafodd ei farnu’n yn Llys y Goron Southwark ddoe.
Fe gafodd y cyn-chwaraewr Cymru, ynghyd â phedwar arall, eu farnu’n euog o dderbyn £5m drwy dwyll ar ôl sefydlu cwmni prentisiaethau ffug.
Ac mewn datganiad i’r wasg yn nodi eu bod yn ei ddiswyddo fel rheolwr, mae Clwb Pêl-droed Caerfyrddin yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o’r twyll nac yn rhan o’r ymchwiliad.
Yn y cyfamser, maen nhw wedi penodi Neil Smothers yn rheolwr dros dro, a hynny ar gyfer y gêm yn erbyn y Drenewydd ddydd Sadwrn (Chwefror 10).
Roedd Mark Aizlewood wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers 2012.
Y cefndir
Roedd Mark Aizlewood, 58 oed, yn un o’r rhai a oedd wedi bod yn hawlio arian gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer cynnal cynllun chwaraeon a oedd yn addo darparu hyfforddiant a chymwysterau arbennig i filoedd o bobol ifanc o ardaloedd difreintiedig.
Ond doedd cannoedd o’r disgyblion a oedd wedi’u cofrestru ganddyn nhw ddim yn bodoli, ac roedd nifer o’r rheiny a oedd wedi cael yr addewid o hyfforddiant llawn amser dim ond wedi derbyn dwy awr yr wythnos.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Chwefror 26.