Mae pryderon fod chwaraewr canol cae Abertawe, Leroy Fer wedi cael anaf sylweddol i’w ffêr.

Fe ddaeth yr Iseldirwr oddi ar y cae yng Nghaerlŷr brynhawn ddoe wrth i’r gêm orffen yn gyfartal 1-1 i dynnu’r Elyrch allan o’r safleoedd disgyn ar wahaniaeth goliau.

Gadawodd Fer y cae ar wastad ei gefn ar ôl 34 munud ar ôl cwympo i’r llawr wrth gwrso’r bêl.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal: “Mae’n edrych fel anaf difrifol ar yr olwg gyntaf.

“Dw i’n credu mai problem gyda’r gweyllen ffêr yw hi, ond dydyn ni ddim yn sicr eto.”

Mae’n debyg y bydd mwy o wybodaeth ar gael o fewn 48 awr.

Wilfried Bony

Mae amheuon hefyd am ffitrwydd Wilfried Bony ar ôl iddo ddod oddi ar y fainc.

Ond mae lle i gredu nad yw’r anaf yn ddifrifol, er ei fod e wedi bod yn cael problemau ffitrwydd y tymor hwn ers dychwelyd i’r clwb.

“Problem fach” sydd gan yr ymosodwr, yn ôl Carlos Carvalhal.