Mae rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal wedi gwrthod trafod dyfodol y chwaraewr canol cae Roque Mesa.
Mae adroddiadau bod y Sbaenwr wedi teithio i’w famwlad am brofion meddygol cyn ymuno â Sevilla ar fenthyg am weddill y tymor, ac mae wedi’i weld yno dros y dyddiau diwethaf.
Ond yn ôl Carlos Carvalhal, does dim byd wedi’i gadarnhau hyd yn hyn.
Wrth fynd gerbron y wasg yn Fairwood cyn y gêm fawr yn erbyn Arsenal yn Stadiwm Liberty nos Fawrth, ailadroddodd y rheolwr ei neges sawl gwaith ei fod yno i drafod y gêm yn unig.
“Does dim byd yn swyddogol,” meddai wrth ohebydd Sky Sports. “Alla’ i ddim ond trafod pethau swyddogol.
“Dw i’n gwybod mai eich swydd chi yw gofyn. Mae’n swyddogol nad yw [Roque Mesa] yma, ond dyw hi ddim yn swyddogol ei fod e’n gadael.
“Wna i ddim trafod na gwneud sylw am unrhyw beth sy ddim yn swyddogol.”
Wrth gael ei bwyso ar argaeledd y Sbaenwr i herio Arsenal nos yfory, dywedodd Carvalhal: “Os nad yw’n swyddogol, wna i ddim gwneud sylw.”
A fydd unrhyw beth yn swyddogol erbyn hyn, tybed? “Wn i ddim am hynny,” meddai y tro hwn.
Nicolas Gaitan
Mae pryderon ddeuddydd cyn i’r ffenest drosglwyddo gau fod nifer o’r chwaraewyr y mae’r Elyrch yn eu targedu wedi tynnu’n ôl o drosglwyddiadau.
Un o’r rheiny, mae’n debyg, yw Nicolas Gaitan, y chwaraewr canol cae ymosodol o Atletico Madrid.
Mae’n ymddangos bod cytundeb wedi’i gynnig iddo ar ôl i’r clybiau gynnal trafodaethau, ond fod y chwaraewr wedi penderfynu aros yn Sbaen.
Ychwanegodd Carlos Carvalhal: “Does dim byd gwahanol ers y tro diwethaf, ry’n ni’n parhau i frwydro am chwaraewyr ond does dim newyddion hyd yn hyn.
“Unwaith eto, dw i’n deall eich sefyllfa, ond does dim byd yn swyddogol. Does gen i ddim byd i’w ddweud am hyn.”
Wrth gael ei holi am ymateb y cefnogwyr pe na bai’r clwb yn llwyddo i ddenu chwaraewyr newydd – a hynny ar ôl iddo ddweud bod angen cryfhau’r garfan – dywedodd nad yw’n “gofidio”.
“Mae gen i fy nhîm i’w baratoi ar gyfer y gemau. Dw i’n parhau i wneud hynny.”
Roque Mesa – yr ail ymgais am ateb
Wrth ddychwelyd i ddyfodol Roque Mesa, y cwestiwn a gafodd ei ofyn yr ail dro oedd pam nad oedd Roque Mesa wedi cael hwyl arni yn Abertawe ers symud o Las Palmas ym mis Gorffennaf.
Ond yr un mor bigog oedd ateb Carlos Carvalhal.
“Rydych chi’n symud eich cwestiynau o gwmpas! Mae e yn y garfan ac yn gweithio’n galed.
“Wrth i ni ddadansoddi’r gwrthwynebwyr, ry’n ni’n dewis yr unarddeg gorau. Os nad yw rhywun ynghlwm, mae hynny’n rhan o bêl-droed.
“Mae e wedi chwarae mewn oddeutu hanner y gemau yma. Mae yna eraill sydd heb fod ynghlwm.
“Dw i ddim eisiau bod yn ddiflas ond dw i yma i drafod y gêm yfory. Mae hyn i gyd am y gêm yn erbyn Arsenal. Ry’n ni’n troi mewn cylchoedd ar Roque Mesa ac ry’ch chi’n gwybod fy ateb. Dw i’n credu eich bod chi’n gwastraffu amser yn siarad am hyn.”