Mae dau o chwaraewyr Clwb Pêl-droed y Seintiau Newydd wedi ymestyn eu cytundebau am ddau dymor arall.

Mae Jamie Mullan a Blaine Hudson yn ddau o chwaraewyr allweddol y tîm y tymor hwn, ac fe fyddan nhw’n aros gyda’r clwb tan ddiwedd tymor 2019-20.

Mae Jamie Mullan wedi serennu o flaen y gôl, tra bod Blaine Hudson wedi gwella o anaf ar ddechrau’r tymor i chwarae rhan flaenllaw yn y tîm dros y Nadolig, gan gynnwys chwip o gôl yn erbyn Y Drenewydd ar Ddydd San Steffan.

Dywedodd y rheolwr Scott Ruscoe: “Rydym yn falch iawn o gael ymestyn cytundebau Jamie Mullan a Blaine Hudson.

“Mae’n bwysig i’r clwb barhau i wella ac yn y dyfodol agos, mae cael y ddau chwaraewr hyn yn ymrwymo i ni yn hanfodol i’n cynnydd.”