Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi ddydd Llun pwy fydd yn olynu’r rheolwr Chris Coleman.
Mae lle i gredu bod pedwar o bobol wedi cael eu cyfweld ar gyfer y swydd – Osian Roberts, Ryan Giggs, Craig Bellamy a Mark Bowen.
Cafodd y cyfweliadau eu cynnal yr wythnos ddiwethaf, yn ôl adroddiadau.
Ymddiswyddodd Chris Coleman ym mis Tachwedd er mwyn mynd yn rheolwr ar dîm Sunderland yn y Bencampwriaeth.
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw yng Nghymru, fe arweiniodd ei dîm i rownd gyn-derfynol Ewro 2016, gan fethu o drwch blewyn â chyrraedd Cwpan y Byd, sydd i’w gynnal yn Rwsia ym mis Mehefin.
Chris Coleman yn dweud ei ddweud
Ers iddo ymddiswyddo, mae Chris Coleman wedi mynnu mai Cymro ddylai ei olynu, er gwaetha’r adroddiadau gwreiddiol fod y Ffrancwr Thierry Henry ymhlith yr ymgeiswyr posib.
Ar ôl i’w dîm golli yn erbyn Caerdydd ddydd Sadwrn, fe wfftiodd Chris Coleman un o’r ymgeiswyr, Mark Bowen, oedd yn is-reolwr Mark Hughes gyda thîm Cymru.
Wrth gyfeirio at waith Mark Bowen fel dadansoddwr teledu, dywedodd Chris Coleman: “Fe ddylai Bowen wneud yn dda, oherwydd dw i’n cofio pan o’n i’n rheolwr ac roedd e’n siarad ar y teledu, roedd ganddo fe’r atebion i gyd ar ôl y gêm.
“Felly gadewch i ni weld.”
Ond roedd yn fwy cynnes ei farn am Ryan Giggs.
“Fe wnes i rannu ystafell newid gyda Ryan ac mae e’n foi gwych.”
Dywedodd ei bod yn “anodd” darogan pwy fyddai’n cael y swydd, ond mae’n dweud y bydd yn barod i gefnogi’r rheolwr newydd.
“A finnau’n Gymro fy hun, fe fydd gan bwy bynnag sy’n ei chael hi fy nghefnogaeth.”