Mae Clwb Pêl-droed Stoke wedi diswyddo’u rheolwr, y Cymro Mark Hughes.
Maen nhw’n ddeunawfed yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl ennill dim ond 20 o bwyntiau mewn 22 o gemau.
Ac maen nhw bellach allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Coventry heddiw.
Mae’r canlyniad yn golygu bod y tîm wedi colli chwech o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Datganiad
Mewn datganiad, dywedodd y clwb: “Gall Stoke City gadarnhau bod cytundeb Mark Hughes wedi cael ei derfynu ar unwaith.
“Hoffem ddiolch i Mark am bopeth mae e wedi ei gyflawni ar ran y clwb dros y pedair blynedd a hanner diwethaf, ac yn enwedig wrth fynd â ni i’r nawfed safle dair gwaith yn olynol yn yr uwch Gynghrair, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol.
“Bydd y clwb yn ceisio penodi rheolwr newydd cyn gynted â phosib, a fyddwn ni ddim yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”