Wrecsam 3–3 Barrow                                                                        

Ildiodd Wrecsam gôl hwyr wrth orfod bodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Barrow yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr ar y Cae Ras brynhawn Llun.

Roedd y Dreigiau dair gôl i ddwy ar y blaen cyn i’r ymwelwyr gipio pwynt gyda gôl yn y pedwerydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Peniodd Chris Holroyd Wrecsam ar y blaen o gic gornel Marcus Kelly wedi deunaw munud cyn i gyn chwaraewr y Dreigiau, Jordan White, unioni pethau i Barrow chwarter awr cyn yr egwyl.

Roedd digon o amser am ddwy gôl arall cyn troi, Dan Jones yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen cyn i gic rydd James Jennings unioni pethau drachefn yn eiliadau olaf yr hanner.

Ni chafwyd cymaint o goliau yn yr ail gyfnod ond roedd digon o gyffro. Rhoddodd Scott Boden y Dreigiau ar y blaen chwarter awr o’r diwedd wedi i beniad George Miller oddi ar y trawst i’w lwybr.

Cafodd y ddau reolwr, Dean Keates ac Ady Pennock, eu hanfon i’r eisteddle am ddadlau ar ochr y cae wedi hynny cyn i Calum MacDonald gipio pwynt i Barrow gyda gôl hwyr ddramatig.

Byddai buddugoliaeth wedi rhoi Wrecsam yn drydydd ond mae gôl hwyr Barrow yn achosi iddynt lithro i’r pumed safle yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Roberts, Jennings, Rutherford (Mackreth 62’), Pearson, Smith, Wedgbury, Kelly (Wright 87’), Boden, Miller, Holroyd

Goliau: Holroyd 19’, Jennings 45+2’, Boden 76’

Cardiau Melyn: Kelly 53’, Smith 55’

.

Barrow

Tîm: Dixon, Jones, Barthram, Makoma (Gomis 74’), Diarra, Dunne, MacDonald, Hall, Panayiotou (Holt 84’), Yussuf, White (Harrison 84’)

Goliau: White 31’, Jones 37’, MacDonald 90+4’

Cerdyn Melyn: Yussuf 66’

.

Torf: 4,390