Mae Leon Britton wedi dweud ei bod yn “rhy fuan” iddo gael ei ystyried yn rheolwr parhaol nesaf Abertawe.

Daeth y newyddion y bore yma ei fod wedi’i benodi’n rheolwr dros dro ar gyfer ymweliad Crystal Palace â Stadiwm Liberty b’nawn Sadwrn.

Cafodd y prif hyfforddwr Paul Clement ei ddiswyddo neithiwr ar ôl llai na blwyddyn wrth y llyw, ar ôl ennill dim ond tair allan o 18 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn – cyfres o ganlyniadau sy’n golygu eu bod ar waelod y tabl dros y Nadolig.

Bydd hyfforddwyr tîm dan 23 Abertawe, Gary Richards a Cameron Toshack yn cynorthwyo Leon Britton, sy’n dweud ei fod yn barod i asesu’r sefyllfa fesul gêm ar hyn o bryd.

Dywedodd Leon Britton: “Nid nawr yw’r amser cywir i fi gael y swydd. Ond dydy hynny ddim yn golygu na fyddwn i yn y dyfodol, ond nid nawr yw’r amser cywir i fi fod yn rheolwr parhaol.

“Bydda i bob amser yn helpu’r clwb, ond dw i ddim yn chwilio am y swydd barhaol.”

Llenwi bwlch

Serch hynny, mae’r cyn-gapten a gafodd ei benodi’n is-hyfforddwr o dan Paul Clement yn mynnu mai fe yw’r person cywir ar hyn o bryd i lywio’r tîm dros dro.

“Dw i’n nabod y chwaraewyr yn dda, eu nodweddion a gobeithio y bydda i’n cael fy mharchu. Mae angen i fi adfer hyder, sicrhau eglurder ac egluro pethau wrthyn nhw.

“Gallwch chi weld bod yr hyder yn isel a chyfrifoldeb pawb yw codi’r chwaraewyr a sicrhau canlyniad.”

Mae tipyn o sôn pan fydd rheolwr newydd yn cyrraedd fod timau’n aml yn “bownsio”, ac mae Leon Britton wedi galw am “ymateb” gan y chwaraewyr ddydd Sadwrn.

“Gobeithio y gwelwn ni nhw’n ymateb. Un o’r rhesymau pam wnes i gytuno i dderbyn y rôl yw fy mod i’n credu y galla i helpu’r tîm.

“Dw i’n sicr y bydd y cefnogwyr yn ein cefnogi ni, mae’r Liberty wedi bod yn lle anodd ond dw i’n sicr y byddan nhw’n ein cefnogi ni a galla i drio rhoi hwb i’r chwaraewyr a mynd i mewn yn bositif.”

Cysondeb

Un o’r gwendidau yr oedd Paul Clement yn cyfeirio ato’n gyson dros hanner cynta’r tymor hwn oedd diffyg cysondeb – ar y cae ac yn yr opsiynau oedd ar gael iddo wrth ddewis y tîm.

Un o’r elfennau oedd wedi gwella o dan ei arweiniad oedd yr amddiffyn, wrth i Federico Fernandez ac Alfie Mawson greu partneriaeth gadarn yng nghanol y llinell gefn.

Ond mae’r Elyrch wedi bod yn brin o goliau, serch hynny, ac mae’r chwaraewyr yng nghanol ac ym mlaen y cae wedi cael eu newid yn gyson.

Dywedodd Leon Britton wrth golwg360: “Dyw cysondeb ddim jyst yn digwydd dros gyfnod o gemau. Ry’n ni’n anghyson o fewn gemau hefyd. Ry’n ni’n dda am 45 munud ac wedyn ry’n ni’n wael am 45 munud. Dyna ein problem fwyaf.

“Yn nhermau cysondeb, ry’n ni wedi gwneud tipyn o newidiadau o ran y system a’r personel. Dw i’n deall pam, oherwydd ry’n ni jyst yn ceisio dod o hyd i ffordd o ennill a ffordd o sicrhau canlyniadau a sgorio goliau.

“Ond mae angen syniad o sut ry’ch chi eisiau chwarae, mae angen y chwaraewyr yn y safleoedd cywir yn fy marn i. Ry’ch chi’n rhoi’r wybodaeth i’r chwaraewyr a cheisio sicrhau’r system ond cyfrifoldeb y chwaraewyr yw e a gallan nhw fod yn hyderus wedyn.”