Mae’n ymddangos bod Craig Bellamy bellach yn ffefryn i olynu Chris Coleman yn Rheolwr ar dîm pêl-droed Cymru.

Mae’r bwcis William Hill bellach wedi datgan bod yr ods ar gyfer Craig Bellamy wedi disgyn o 1-2 i 2-7. Mae Ryan Giggs a Tony Pulis wedi eu gosod yn gydradd ail ar 5-1.

Gobaith Cymdeithas Pêl-droed Cymru yw penodi’r olynydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae’r cyn-gapteiniaid Craig Bellamy a Ryan Giggs eisoes wedi datgan eu bod yn awyddus i arwain eu gwlad yn y gemau rhagbrofol i gyrraedd ffeinals Ewro 2020.

Hyd yma nid yw Tony Pulis wedi cyfleu unrhyw ddiddordeb yn y swydd.

Un posibiliad yw y gallai Rheolwr Cynorthwyol Cymru, Osian Roberts, gymryd yr awenau am gyfnod o ddwy flynedd, gan hyfforddi olynydd yn ystod y cyfnod yma.