Mae’r cais gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i gynnal gemau UEFA Ewro 2020 yng Nghaerdydd wedi bod yn aflwyddiannus.
Roedd y CBDC wedi anfon cais i UEFA wedi iddo ddod i’r amlwg bod Brwsel – dinas oedd fod cynnal rhai o gemau’r gystadleuaeth – yn wynebu heriau.
Bellach mae UEFA wedi cyhoeddi na fydd Brwsel yn cynnal y gemau yma mwyach, ac mai Stadiwm Wembley fydd yn gyfrifol bellach.
“Siomedig iawn”
Mewn datganiad mae’r CBDC wedi dweud eu bod yn “siomedig iawn” â’r penderfyniad ond wedi dymuno’r gorau i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr a Stadiwm Wembley.
“Nid yw Cymru erioed wedi cynnal gêm derfynol Cwpan y Byd neu Ewro, a dyma oedd y cyfle gorau i wneud hynny,” meddai’r datganiad.
“Fe wnaeth CBDC gydymffurfio â holl ofynion y cais ac rydym wedi ysgrifennu at UEFA i ofyn am adborth ar y penderfyniad fel y gallwn ddeall y rhesymau y tu ôl i’r bleidlais er gwybodaeth.”
Dinasoedd
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Sweden hefyd wedi anfon cais, ac wedi gobeithio medru cynnal y gemau yn Arena’r Cyfeillion, Stockholm.
Bydd deuddeg dinas yn cynnal gemau Ewro 2020: Rhufain, Baku, St Petersburg, Copenhagen, Amsterdam, Bucharest, Llundain, Glasgow, Bilbao, Dulyn, Munich a Budapest.