Mae Llanrhaeadr ym Mochnant wedi cael eu gwobrwyo am guro Derwyddon Cefn o’r Uwchgynghrair gyda gêm gartref adre yn erbyn y Dinasyddion o Fangor yn y bedwaredd rownd.
Fe gurodd tîm Mark Griffiths y Derwyddon o 3-2, ac mae Cadeirydd y clwb, o Adran Canolbarth Spar yn falch iawn a’r canlyniad.
“Bydd yn dipyn o achlysur i gael Bangor yma,” meddai Mel Roberts, wrth Golwg360. “Doedd neb yn meddwl bysan ni’n curo’r Derwyddon ond roedd ein tîm rheoli Mark Griffiths a Graham Evans gyda chynllun i ennill y gêm.
“Rydan ni’n cael tymor da, ail yn yr adran gyda gemau mewn llaw, ar nod yw ennill dyrchafiad yn ôl i’r Gymru Alliance. Roedd tua 200 yma ar gyfer gêm dydd Sadwrn, rwy’n sicr bydd mwy yma ar gyfer gêm Bangor. Mae’r draw yn berffaith.”
Caernarfon
Bydd Caernarfon yn wynebu tîm arall o’r Uwchgynghair ar ôl curo’r Barri 2-0 dydd Sul sef Y Seintiau Newydd. Mae atgofion cymysg o’r tro diwethaf wnaethon nhw gwrdd yn y Gwpan yn 2014. Roedden nhw’n ennill 2-0 pan wnaeth y wal tu ôl i’r gôl ddymchwel cyn hanner amser. Sgoriodd y Seintiau dair gwaith i sicrhau buddugoliaeth 2-3. Maen nhw wedi cwrdd y tymor hwn yn barod yng Nghwpan Nathaniel gyda’r Seintiau yn ennill gartref 2-0.
Bydd Y Fflint o’r Gymru Alliance gartref i’r Drenewydd o’r Uwchgynghrair a bydd rheolwr newydd Y Fflint, Niall McGuinness, yn sicr yn falch eu bod nhw gartref. Bydd Porthmadog yn teithio i Lannau Dyfrdwy i wynebu tîm Andy Morrison, Cei Conna, a dywedodd rheolwr Porthmadog, Craig Papyrnik , wrth Golwg360: “Heb os, Cei Conna fydd y ffefrynnau, mae digon o gemau cyn y gêm hon ond mi fyddan ni’n mynd yno yn llawn hyder.”
Mae’r ddau dîm o Dde Cymru, Pontypridd a Phenydarren yn cwrdd, ond bu cymhelliant i’r ddau dîm fynd drwodd i’r wyth olaf. Mae Rhuthun o’r Gymru Alliance wedi cael tîm arall o’r Uwchgynghrair sef Llandudno ac mi fyddan nhw’n gobeithio cael canlyniad gwych arall ar ôl trechu Prestatyn oddi cartref 3-0. Yr unig gêm rhwng dau dîm o’r Uwchgynghrair fydd yng Nghyncoed pan fydd tîm Neville Powell, Aberystwyth, yn teithio i wynebu Met Caerdydd a bydd Caerfyrddin yn teithio i Airbus.
Gemau fydd yn cael eu chwarae penwythnos 27/28/ 29 Ionawr 2018
Fflint v Drenewydd
Llanrhaeadr v Bangor
Caernarfon v Y Seintiau Newydd
Nomadiaid Cei Connah v Porthmadog
Met Caerdydd v Aberystwyth
Pontypridd v Penydarren
Llandudno v Rhuthun
Airbus v Caerfyrddin