Mae tîm pêl-droed Caernarfon drwodd i rownd 16 olaf Cwpan JD ar ôl curo’r Barri o 2-0 ar yr Oval.
Daeth gôl gynta’r gêm ar ôl pum munud drwy Jamie Breese.
Dyblodd tîm tre’r Cofis eu mantais gyda chwip o gic rydd gan Nathan Craig toc cyn hanner amser.
Roedd 1,150 o gefnogwyr yno’n gwylio’r gêm.
NATHAN CRAIG! ⚽🔥 @CaernarfonTown 2-0 Y Barri
Cic-rydd ragorol! What a free-kick! #CwpanCymru #JDWelshCup pic.twitter.com/kAq90379or— sgorio (@sgorio) December 3, 2017
Canlyniadau’r rownd yn llawn:
Aberystwyth 4-0 Y Bala
Airbus UK 3-2 Goytre
Bangor 4-3 Cwmamman
Bwcle 0-1 Y Fflint
Caernarfon 2-0 Y Barri
Cei Connah 3-0 Cwmbrân
Cyffordd Llandudno 0-4 Penydarren
Llandudno 4-0 Gresffordd
Llanrhaeadr-ym-Mochnant 3-2 Derwyddon Cefn
Penybont 1-3 Met Caerdydd
Pontypridd 3-1 Hwlffordd
Porthmadog 7-2 Panteg
Prestatyn 0-3 Rhuthun
Rhydaman 2-3 Caerfyrddin
Y Drenewydd 2-0 Cegidfa
Y Seintiau Newydd 6-0 Penrhyncoch
Bydd yr enwau ar gyfer y rownd nesaf yn cael eu tynnu o’r het yn fyw ar Heno ar S4C nos Lun am 7 o’r gloch.