Mae Casnewydd wedi cyrraedd trydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 dros Gaergrawnt ar gae Rodney Parade.
Sgoriodd y capten Joss Labadie ddwy gôl – y naill a’r llall ag ergyd foli.
Aeth y Cymry ar y blaen ar ôl dwy funud wrth i Labadie rwydo oddi ar groesiad gan Matthew Dolan.
Fe allai Caergrawnt fod wedi unioni’r sgôr wedi’r egwyl oni bai am waith yr amddiffynnwr Ben White i glirio’r bêl oddi ar y llinell.
Ond daeth y gôl fuddugol yn y munudau olaf wrth i’r capten rwydo am yr ail waith, a hynny oddi ar groesiad gan Frank Nouble.
Fe fydd Casnewydd yn darganfod nos Lun pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf.