Mae tîm pêl-droed Abertawe ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli o 2-1 yn Stoke, ac mae’r pwysau ar y prif hyfforddwr Paul Clement wedi cynyddu.
Aeth yr Elyrch ar y blaen drwy Wilfried Bony yn erbyn ei hen glwb wrth i’r ymosodwr sgorio am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.
Ond tarodd y Saeson yn ôl yn Stadiwm Bet365 drwy Xherdan Shaqiri, ac fe aethon nhw ar y blaen drwy Mame Biram Diouf cyn yr egwyl.
Dyma fuddugoliaeth gyntaf Stoke ers Hydref 28, ac maen nhw chwe phwynt uwchben y tri safle isaf erbyn hyn.
Ond mae’r Elyrch ar eu ffordd adref yn waglaw yn dilyn eu degfed colled y tymor hwn.