Er iddyn nhw gael tymor rhagorol hyd yma yn y Bencampwriaeth, mae rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd yn disgwyl iddyn nhw gryfhau eto yn ail hanner y tymor wrth i chwaraewyr pwysig ddychwelyd i’r garfan.
Mae’r Adar Gleision gartref yn erbyn Norwich heno a’r gêm yn cael ei dangos yn fyw ar Sky Sports.
Wedi 19 gêm mae Caerdydd yn ail yn y tabl, pedwar pwynt y tu ôl i Wolverhampton Wonderers sydd ar y brig, a thri phwynt ar y blaen i Sheffield United yn y trydydd safle.
“Rydan ni’n anelu at gael ail hanner cryf i’r tymor,” meddai Neil Warnock sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 69 oed heddiw.
“Rydw i o’r farn y medrwn ni fod hyd yn oed yn well tîm nag y buon ni hyd yma [y tymor hwn]… ond o ran y canlyniadau yn gwella, wn i ddim.”
Gobaith y rheolwr yw y bydd Ken Zohore, Mendez Mendez-Laing a Gunnars Gunnarson yn dychwelyd wedi anafiadau ac yn medru aros yn holliach am weddill y tymor.
“Byddai hynny fel cael tri chwaraewr newydd,” meddai Neil Warnock.
“Os fedrwn ni eu cael nhw yn ffit ar gyfer ail hanner y tymor yna fe fyddwn ni mewn lle da.”
Record wael yn ddiweddar
Er bod tîm y brifddinas yn ail yn yr adran, a Norwich yn bymthegfed, mae Caerdydd wedi colli eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn y Caneris ac wedi ildio 11 gôl yn y gemau hynny.
Caerdydd v Norwich heno, cic gyntaf am 7.45.