Gyda’r Drenewydd yng ngwaelodion Uwch-gynghrair Cymru mae pryder a rhwystredigaeth am eu safle ymhlith y cefnogwyr.
Ar ôl colled arall nos Wener yn erbyn Aberystwyth 3-0 ac yn wynebu eu cymdogion Cegidfa o’r Gymru Alliance gartref ar Barc Latham, mae’r cefnogwr Simon Brennan yn gobeithio bydd dim sioc yn yr ail rownd.
“Rwyf yn hanu’r o’r Drenewydd ac yn eu gwylio nhw ers tua 25 mlynedd,” meddai wrth Golwg360.
“Mae atgofion gwych gen i o gemau yn Ewrop a balchder i weld nhw’n chwarae, ond colli yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2015 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Barc Latham.”
“Colli asgwrn cefn”
“Ar ôl colli asgwrn cefn y tîm yn yr haf sef Shane Sutton , Jason Oswell ac Alex Fletcher roedden ni wastad yn mynd i golli chwaraewyr o safon – rydan ni’n colli goliau Oswell.
“Mae’r rheolwr Chris Hughes wedi dod a chwaraewyr i mewn ac mae un neu ddau yn cymryd amser i setlo. Mae’n dda gweld yr hogyn lleol Ryan Sears yn ôl ar fenthyg o’r Amwythig, 18 oed ydy o ac mae gobeithion mawr iddo.
“Roedd yr antur i Ewrop yn 2016 yn fythgofiadwy. Es i draw i Valletta, prif ddinas Malta, gyda thua 70 o gefnogwyr eraill, trip gwych, atgofion da ac fe wnaethom ennill 2-1 a mynd drwodd i wynebu Copenhagen o Ddenmarc, dros y ddwy gêm roedden nhw’n rhy gryf i ni, wnaethom golli’r ddwy gêm ond dim cywilydd.”
Tymor “rhwystredig”
“Rydan ni wedi cael tymor rhwystredig hyd yma, ac roedden ni’n wael iawn nos Wener ddiwethaf yn Aberystwyth. Mae’n amser i rai o’r chwaraewyr chwysu dipyn i’r crys, yn enwedig gyda Chegidfa yn dod i Barc Latham dydd Sadwrn.
“Maen nhw’n dîm da ac rydan ni’n ildio gormod o goliau a dim sgorio digon, felly mae problemau,” meddai.
“Y gobaith yw ein bod ni’n goroesi’r tymor hwn, a sefydlu’n hunain fel tîm yn y chweched uchaf bob tymor, cael rhediad yn y cwpanau a gobeithio cael mynd i Ewrop eto.”
Y Drenewydd v Cegidfa – ail rownd Cwpan Cymru dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr , 2.30yp.