Mae adroddiadau bod Chris Coleman wedi bod yn arwain sesiwn hyfforddi tîm pêl-droed Sunderland y bore ma.
Mae lle i gredu ei fod e ar fin llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner i fod yn rheolwr y tîm sydd ar waelod y Bencampwriaeth.
Mae disgwyl cadarnhad o’r penodiad heddiw.
Fe ymddiswyddodd o’i swydd yn rheolwr tîm Cymru nos Wener ar ôl methu â chyrraedd Cwpan y Byd 2018.
Mae disgwyl i Kit Symons, sydd hefyd wedi gadael Cymru, gael ei benodi i’w staff hyfforddi, ac fe allen nhw fod wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn Aston Villa nos Fawrth.
‘Dewis da’
Mae Chris Coleman wedi cael sêl bendith un o gyn-reolwyr Sunderland, Peter Reid, sy’n dweud bod y Cymro’n “ddewis da”.
“Mae ganddo fe waith caled i’w wneud, mae’r cefnogwyr yn despret am unrhyw fath o ganlyniad.
“Mae’n glwb pêl-droed enfawr ac efallai ei fod yn amser da i fynd yno.
“Dim ond un ffordd maen nhw’n gallu mynd, sef i fyny, neu dyna dw i’n gobeithio, beth bynnag.
“Mae’n sicr yn mynd i fod yn anodd oherwydd ry’n ni’n gwybod fod y Bencampwriaeth yn gynghrair anodd iawn, iawn.”