Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Tsieina, Wrwgwái a Gweriniaeth Tsiec yng Nghwpan Tsieina fis Mawrth nesaf.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn ninas Nanning yn ne’r wlad rhwng Mawrth 19-27.
Daeth cadarnhad o wrthwynebwyr Cymru mewn cynhadledd i’r wasg yn Beijing heddiw.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey ar gael, ond mae’r gystadleuaeth yn cwympo yn ystod ffenest FIFA lle mae disgwyl i glybiau ryddhau eu chwaraewyr ar gyfer dyletswydd ryngwladol.
Ond fe fydd clybiau bryd hynny’n mynd am le yng nghystadlaethau Ewrop, ac felly fe allen nhw wrthwynebu ymgais i ddenu eu chwaraewyr i ffwrdd.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman fod y gystadleuaeth yn beth “positif iawn” i’r tîm.