Met Caerdydd 5–0 Caerfyrddin
Rhoddodd myfyrwyr Met Caerdydd ddarlith bêl droed go iawn wrth i Gaerfyrddin ymweld â Champws Cyncoed amser cinio ddydd Sadwrn.
Sgoriodd y tîm cartref bum gôl mewn buddugoliaeth swmpus yn Uwch Gynghrair Cymru.
Methodd Adam Roscrow gyfle euraidd i roi Met ar y blaen wedi chwarter awr cyn gwneud hynny ddau funud yn ddiweddarach. Gwnaeth Lee Surman a Dave Vincent lanast o amddiffyn croesiad Kyle McCarthy a gwnaeth Roscrow yn siŵr er bod y bêl yn anelu am y rhwyd pryn bynnag.
Dyblodd McCarthy fantais ei dîm saith munud cyn yr egwyl gyda gôl dipyn mwy graenus, cic rydd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.
Parhau i reoli a wnaeth y myfyrwyr wedi’r egwyl a pharhau i amddiffyn fel plant ysgol a wnaeth Caerfyrddin.
Manteisiodd Eliot Evans ar ymdrech warthus Daniel Sheehan i glirio’r bêl o’r cwrt cosbi i sgorio’r drydedd cyn i Roscrow gasglu pas ddifrifol Craig Hanford yn ôl i’r golwr i rwydro’r bedwaredd.
Foli dda gan Liam Thomas a oedd yr agosaf a ddaeth Caerfyrddin at dynnu un yn ôl ond roedd Will Fuller yn effro yn y gôl.
Roedd digon o amser ar ôl i Evans gael ei ail ef a phumed ei dîm ddeg munud o’r diwedd, yn sgorio i rwyd wag wedi i Lee Idzi wyro ergyd Harry Owen yn syth i’w lwybr.
Mae Met Caerdydd yn aros yn drydydd yn yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y fuddugoliaeth swmpus tra mae Caerfyrddin yn aros ar waelod y tabl.
.
Met Caerdydd
Tîm: Fuller, Rees, Mcarthy, Woolridge, Lewis, E. Evans (Bowler 82’), Baker, Roscrow, Corsby (Barnett 83’), Edwards (Owen 72’), W. Evans
Goliau: Roscrow 17’, 59’ McCarthy 38’, E. Evans 56’, 81’
.
Caerfyrddin
Tîm: Idzi, Cummings, Knott (Sheehan 45’), Vincent, Hanford, Surman, Georgievsky (Griffiths 45’), Morgan, Thomas, Bassett (Williams 73’), Lewis
Cardiau Melyn: Griffiths 55’, Vincent 84’
.
Torf: 243