Does neb islaw’r wythfed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ddiogel rhag y gwymp ar hyn o bryd, yn ôl prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement.
Daw ei sylwadau ar drothwy gêm fawr yn erbyn Brighton yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma – gêm y mae’n rhaid ei hennill, meddai.
Mae’r Elyrch y tu allan i’r safleoedd isaf ar hyn o bryd, ond dim ond ar sail gwahaniaeth goliau.
Ond dim ond saith pwynt sy’n gwahanu’r Elyrch a Watford, sy’n wythfed yn y tabl.
Mae Paul Clement dan bwysau ar hyn o bryd i wyrdroi tymor siomedig yr Elyrch.
‘Troeon trwstan’
Ond mae digon o “droeon trwstan” i ddod y tymor hwn, yn ôl y dyn a gafodd ei benodi i’r brif swydd ym mis Ionawr.
“Dywedwn i bod [y frwydr i oroesi] yn dechrau o’r wythfed safle, mae hynny’n adlewyrchiad eithaf teg ar hyn o bryd.
“Mae Burnley yn seithfed gyda’r un nifer o bwyntiau â Lerpwl ac maen nhw wedi sgorio dwy gôl yn fwy na ni.
“Mae popeth mor dynn a dyna pham fod angen i bawb fod yn amyneddgar. Gadewch i ni weld sut mae pethau’n troi allan yn nes ymlaen yn y tymor.
“Fe fydd troeon trwstan di-ri gyda’r timau yn yr wythfed safle ac i lawr i ugeinfed, yn sicr.”
Y gwrthwynebwyr
Mae gan Brighton bedwar pwynt yn fwy na’r Elyrch ar ôl sicrhau 12 pwynt o 10 gêm.
Maen nhw eisoes wedi dangos arwyddion eu bod nhw’n ddigon da i’r Uwch Gynghrair, ochr yn ochr â Huddersfield a Newcastle, y ddau dîm arall a gafodd ddyrchafiad y tymor hwn.
Ac fe allai’r Gwylanod gynnig cryn her i’r Elyrch sydd wedi colli pump allan o’u chwe gêm ddiwethaf.
Yn ôl Paul Clement, mae’n rhaid i’r perfformiadau ar eu tomen eu hunain wella i’r Elyrch.
“Ry’n ni wedi gwneud yn iawn oddi cartref gyda nifer barchus o bwyntiau.
“Ond gartref dyw pethau ddim wedi bod yn iawn. Fe wnaethon ni’n dda yn erbyn Huddersfield, ond dyw hynny ddim yn ddigon da.”
‘Rhaid ennill’
Ychwanegodd Paul Clement fod “rhaid ennill” y gêm heddiw.
“Ry’n ni eisiau cyrraedd 20 o bwyntiau, o leiaf, erbyn hanner ffordd ac mae gyda ni naw gêm cyn hynny ac felly er mwyn cyrraedd y fan honno, rhaid i ni ennill pedair gêm.”
Ar ôl heddiw, mae gan yr Elyrch daith i Burnley a gêm gartref yn erbyn Bournemouth cyn wynebu hen glwb Paul Clement, Chelsea ar ddiwedd y mis.