Mae Alan Tate wedi torri ei goes
 Mi fydd Abertawe yn gorfod gwneud heb y ddau chwaraewr wnaethon nhw arwyddo ar ddiwrnod ola’r ffenestr drosglwyddo, ar gyfer eu hymweliad â Stadiwm yr Eimrates yfory.

Ni fydd Darnel Situ na Rafik Hakkiche ar gael i wynebu Arsenal, gan nad ydy’r Elyrch wedi derbyn yr hawl priodol gan FIFA iddyn nhw gael chwarae.

Ond mae’r chwaraewr newydd arall Federico Bessone ar gael i Brendan Rodgers.

Mae’r rheolwr eisoes yn gorfod gwneud heb sawl chwaraewr dylanwadol, gydag Alan Tate wedi torri ei goes yn dilyn damwain mewn car bach golffio, Gary Monk wedi anafu ei droed, a’r ymosodwr Craig Beattie wedi clwyfo ei ffêr.