Bydd y Seintiau Newydd yn teithio i Fangor yfory yn ffyddiog o’u gallu i drechu’r Dinasyddion ar eu tomen eu hunain.

Mae’r clwb o Groesoswallt yn llawn hyder wedi buddugoliaeth gampus gartref yn erbyn Castell-nedd o 3-0 yn Neuadd y Parc nos Fercher.

 “Roedden ni ar ein gorau yn y gêm honno,” meddai Mike Davies, Cyfarwyddwr Pêl-droed y Seintiau.

“Roedden ni’n sicr yn haeddu’r tri phwynt, ond y chwaraewyr sy’n haeddu’r clod i gyd. Roedd o’n berfformiad ar y cyd gwych.”

Fe sgoriodd Steve Evans gydag ergyd nerthol o bellter wedi saith munud, ac fe ychwanegodd Greg Draper ac Alex Darlington at y sgôr yn yr ail hanner i selio ffawd Castell-nedd – yr ail dro iddyn nhw golli yn eu tair gêm ddiwethaf.

Fe allai’r Seintiau fod wedi trechu Castell-nedd o fwy na thair gôl o ystyried yr holl gyfleoedd gafon nhw.

Fe Allen nhw fod wedi cael cic o’r smotyn wedi i Draper gael ei dynnu i lawr yn y cwrt.

Yn ogystal, bu rhaid i Gastell-nedd chwarae awr o’r gêm gyda deg dyn ar y cae ar ôl i’r amddiffynnwr Kai Edwards gael cerdyn coch haeddiannol yn dilyn tacl front ar Craig Jones.

“Fe allwn ni fod wedi sgorio mwy dw i’n siŵr,” meddai Mike Davies.

“Ond roedd y canlyniad yn ddigon teg yn y pen draw. Y perfformiad a’r tri phwynt yw’r peth pwysicaf i ni yn y diwedd.

“Mi fydda hi’n annheg pigo unigolion allan, fe wnaeth pawb chwarae’n wych. Ond rhaid dweud bod Tom Roberts wedi ymdopi’n dda iawn yn ei gêm gyntaf dros y clwb yn y gynghrair.”

Brwydro Bangor

Mae Mike Davies yn gwrthod ystyried unrhyw obeithion sydd gan y Seintiau Newydd o gipio’r bencampwriaeth yn ôl y tymor hwn.

“Mae yna lawer iawn o’r tymor yn dal i fynd, a llwyth o gêmau angen eu chwarae. Fyddwn ni wedi chwarae pawb bedair gwaith erbyn diwedd y tymor ar ôl i’r gynghrair gael ei haneru,” meddai.

“Mae’n hanfodol i ni gasglu dipyn o bwyntiau yn gynnar yn y tymor, a gobeithio gallwn ni roi’r dechreuad gwael gawsom y tu ôl i ni ar ôl y fuddugoliaeth yma.”

Bydd parhau ar eu rhediad disglair diweddar yn anodd serch hynny wrth iddyn nhw wynebu Bangor ar Ffordd Farrar ddydd Sadwrn.

“Maen nhw’n bencampwyr y llynedd, ac wedi cael dechrau da i’r tymor eto, felly bydd hi’n galed, ond mae yna bwysau ar y ddau dîm i berfformio,” meddai Mike Davies.

Mae Mike Davies yn obeithiol oherwydd bod Steve Evans wedi dychwelyd i atgyfnerthu amddiffyn y Seintiau Newydd y tymor hwn, “ac mae o’n berffaith er mwyn delio gyda dull pêl hir Bangor.”

Mae Matt Williams hefyd ar gael yn dilyn cyfnod wedi ei wahardd, felly mae gan y Seintiau garfan lawn.

“Rydym ni’n barod am y gêm,” meddai Mike Davies.  

Darlledir y gêm yn fyw ar Sgorio ar S4C b’nawn fory. a’r gic gyntaf am 3.45 yr hwyr.

Guto Dafydd