Gary Speed
Mi ddylai tîm pêl-droed geisio efelychu eu gwrthwynebwyr heno, a dod yn dîm trefnus sy’n anodd i’w guro.
Dyna neges Gary Speed ar drothwy’r gêm yn erbyn Montenegro yng Nghaerdydd heno.
Mi gollodd Cymru oddi cartref ym Montenegro, ac yn fuan wedyn mi gollodd John Toshack ei swydd yn reolwr y tîm cenedlaethol.
Bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar Sky Sports 2, gyda’r gic gynta’ am 7.45 yr hwyr. Bydd uchafbwyntiau yn dilyn ar S4C am 10.35.
Er mai nhw yw’r detholion isaf yng ngrŵp Cymru ar gyfer Ewro 2012, mae Montenegro wedi mwynhau canlyniadau ardderchog ac yn gorwedd ar frig y tabl gyda Lloegr.
Er bod gan Gymru chwaraewyr o’r radd flaenaf megis Gareth Bale, Aaron Ramsey a Craig Bellamy, does ganddyn nhw ddim tîm cyflawn sy’n cydweithio’n dda.
Ac mae rheolwr Cymru yn dweud bod angen cymryd dalen o lyfr y gwrthwynebwyr heno er mwyn cywiro’r sefyllfa.
“Wrth edrych ar gêmau Montenegro nid yw’n syndod eu bod ar frig y grŵp felly does dim dwywaith y bydd hi’n gêm anodd,” meddai Gary Speed.
“Maen nhw’n gweithio’n galed i’r tîm ac os ydan ni am brofi llwyddiant mae’n rhaid I ni wneud yr un peth. Fedran ni ddim â fforddio chwarae fel unigolion. Mae’n rhaid i ni chwarae fel tîm.
“Os oes yna un neu ddau o chwaraewyr ar goll, fedrwn ni ddim â fforddio gadael i hynny gael effaith arnom ni fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn, iawn i gadw’r garfan gyda’i gilydd a chael yr un chwaraewyr.”