Craig Bellamy
Mae’n bur debyg y bydd rhaid i Craig Bellamy aros gyda Man City y tymor hwn gan nad yw’n fodlon ystyried gollwng ei ofynion cytundebol.
Roedd adroddiadau’n honni fod Lerpwl, Tottenham ac Everton oll wedi dangos diddordeb mewn arwyddo’r ymosodwr, sy’n 32 oed.
Ond mae cytundeb Bellamy gyda Man City, a’i gyflog uchel (oddeutu £90,000 yr wythnos) yn rhwystr mawr i unrhyw siawns y gallai ddod o hyd i glwb y tymor hwn.
Er bod Mancini eisoes wedi dweud nad oes ganddo ddefnydd ar gyfer Bellamy yn ei garfan, mae’nbosib y gallai Bellamy gael ei orfodi i aros ym Manceinion os nad ydyn nhw’n fodlon ei ryddhau’n gynnar o’i gytundeb.
Mae gobaith Bellamy o gael chwarae pêl-droed tîm cyntaf – ar unrhyw lefel – yn edrych yn brin ar hyn o bryd, ond mae’r Cymro’n haeru na fedrai ystyried gostwng ei gyflog am ei fod yn cyfrannu at ei sefydliad elusennol sy’n helpu plant difreintiedig yn Sierra Leone.
Gall Bellamy ond symud i glwb arall os yw Man City yn fodlon cynnig setliad iddo, neu os yw clwb arall yn fodlon ystyried digolledu Man City am werth blwyddyn olaf ei gytundeb.