Mae clwb pêl-droed Wrecsam yn dal i rannu lle ar frig cynghrair Blue Square Bet wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Fleetwood.
Maen nhw’n gyntaf yn y tabl yn ôl y gwahaniaeth goliau, ond mae gan Gateshead yr un nifer o bwyntiau â nhw wedi 6 gêm.
Cafodd Wrecsam ddechreuad perffaith y prynhawn yma wrth i Jake Speight rwydo wedi dau funud, wedi sodliad clyfar gan Danny Wright.
Seliodd Andy Morrell y fuddugoliaeth wedi 59 munud, gan osgoi rhoi dim cyfle i olwr Fleetwood, Scott Davies, gyda hanner foli wych.
Gwaharddwyd gôl hwyr gan Matias Pogba, ond roedd Wrecsam wedi llwyddo i wneud digon i sicrhau eu bod wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn y gynghrair.