Malky Mackay, rheolwr Caerdydd
Deiniol Glyn sy’n bwrw golwg dros fuddugoliaeth gyffrous 5 – 3 Caerdydd yn erbyn Huddersfield ail rownd Cwpan Carling neithiwr. ..

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth mewn amser ychwanegol am yr ail rownd yn olynol wrth iddyn nhw drechu Huddersfield 5 – 3 yn ail rownd Cwpan Carling.

Huddersfield  ddechreuodd y gêm orau cyn i Gaerdydd sgorio dwy gôl mewn dau funud.

Gabor Gyepes beniodd y gyntaf i gefn y rhwyd ar ôl 16 munud, a daeth yr ail drwy beniad arall gan Jon Parkin ar ôl 17 munud.

Er i’r ddau dîm gael dechreuad addawol i’r ail hanner, roedd Caerdydd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i drydedd gôl.

Ond ar ôl smonach gan Paul Quinn, sgoriodd Jordan Rhodes i Huddersfield cyn i Danny Ward unioni’r sgôr i’r ymwelwyr ar ôl 70 munud.

A phan sgoriodd Rhodes ei ail gôl o’r noson ar ôl 88 munud, roedd hi’n edrych petai’r tîm o  Gynghrair Un ar fin dwyn buddugoliaeth yn erbyn yr Adar Gleision.

Don Cowie oedd achubwr Caerdydd. Unionodd y sgôr i Gaerdydd yn ail funud yr amser anafiadau wedi croesiad da gan Craig Conway.

Yn ystod yr hanner awr o chwarae ychwanegol, fe aeth Caerdydd ar y blaen pan rwydodd Craig Conway ar ôl pas hir gan Peter Whittingham.

Roedd yn gôl haeddiannol i Conway, ar ôl i’r Albanwr greu pob un o dair gôl Caerdydd yn ystod y 90 munud.

Er, roedd ei gôl ei hun ychydig yn ffodus wrth i’w ergyd gael ei wyro heibio i’r gôl geidwad, Huddersfield, Ian Bennet.

Sgoriodd Don Cowie ei ail o’r noson wedi 117 munud i selio’r fuddugoliaeth i Gaerdydd a sicrhau fod Huddersfield yn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd yn waglaw.