Aaron Ramsey
Y Cymro, Aaron Ramsey, fydd seren fawr nesa’ yng nghlwb Arsenal, meddai arwr mwya’r Emirates wrth adael.

Fe broffwydodd Cesc Fabregas y byddai canol cae y Llundeinwyr yn gwbl ddiogel yn nwylo Ramsey a chwaraewr Lloegr, Jack Wilshire.

Mae’r papurau heddiw’n dyfynnu’r Catalan wrth iddo adael Arsenal am ei glwb cartref, Barcelona, am £35 miliwn.

Fe ddywedodd bod ‘injan’ Ramsey’n “anhygoel” a phroffwydo y bydd ei “bas olaf” yn gwella ac mai ef fydd “y seren fawr nesa’ yn Arsenal”.

Y disgwyl yw mai Ramsey fydd ynghanol y cae i’r clwb wrth iddyn nhw chwarae gêm ragbrofol yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop heno yn erbyn Udinese.

Mae capten Cymru’n dod yn ôl i ffitrwydd llawn ar ôl misoed allan o’r gêm ar ôl torri ei goes.