Adam Matthews
Mae’r Cymro, Adam Matthews, wedi chwarae ei gêm gystadleuol gynta’ i Celtic yn Uwch Gynghrair yr Alban.

Yn ôl papur newydd y Scotsman, roedd wedi cael gêm “sicr” wrth i’w dîm guro Aberdeen o 1-0 ac roedd yn golygu bod tri Chymro’n chwarae ar y lefel ucha’ yno.

Fe symudodd y cefnwr de i Glasgow o Gaerdydd dros yr ha’ gan ymuno â’i gyn gydchwarawr gyda’r Adar Glas, Joe Ledley.

Roedd y chwaraewr canol cae yn nhîm Celtic hefyd, er iddo adael y cae ar ôl ychydig tros awr.

Owain Tudur hefyd

Roedd yna bwynt i’r trydydd Cymro sy’n alltud yn yr Alban wrth i Owain Tudur Jones ac Inverness Caledonian Thistle gael gêm gyfartal 3-3 yn Dunfermline.

Fe allen nhw fod wedi cael buddugoliaeth gynta’r tymor nes i Dunfermline ddod yn gyfartal yn y munud ola’.