Kenny Miller - ei gol gynghrair gynta' i Gaerdydd
West Ham United 0 Caerdydd 1

Fe lwyddodd Caerdydd i ennill eu gêm gynta’ yn nhymor newydd y Bencampwriaeth gyda gôl yn y munud ola’.

Fe ddaeth honno trwy gyfuniad rhwng dau chwarewr newydd – y Ffrancwr, Rudy Gestede, yn curo dynion a chroesi er mwyn i’r Albanwr, Kenny Miller, reoli a sgorio.

Roedd hynny’n ddigon i droi’r dorf gartre’ yn erbyn West Ham sydd newydd syrthio o’r Uwch Gynghrair – gyda nifer o chwaraewyr rhyngwladol, mae llawer yn disgwyl y bydd yr Hammers yn mynd yn ôl yn syth.

Yn awr, fe fydd y disgwyliadau’n codi eto am Gaerdydd ar ôl iddyn nhw fethu ar y diwedd i gael dyrchafiad y llynedd. Ar ôl colli nifer o chwaraewyr amlwg tros yr ha’, fe fydd y perfformiad heddiw wedi tawelu llawer o’r ofnau am y newydd-ddyfodiaid.

Cystadleuol

Ond roedd Caerdydd yn gystadleuol trwy’r gêm gan orffen yr hanner cynta’n gry’ – er bod West Ham wedi cael cwpwl o gyfleoedd.

Roedd yr ail hanner hefyd yn gyflym a bywiog ac fe ddaeth Gestede ymlaen yn lle Robert Earnshaw ar ôl 68 munud.

Roedd y Ffrancwr 22 oed wedi ymuno gyda Chaerdydd hanner ffordd trwy’r mis diwetha’ ar ôl dod ar brawf am wythnos.