Malky Mackay
Fydd dim rhaid i Gaerdydd wynebu’r blaenwr mawr, John Carew, yn Upton Park y prynhawn yma.

Mae cyn ymosodwr Aston Villa wedi arwyddo i West Ham, ond roedd y trosglwyddiad ddoe’n rhy hwyr ar gyfer gêm gynta’r tymor.

Ond mae’r Adar Gleision yn debyg o wynebu nifer o chwaraewyr rhyngwladol Lloegr, gan gynnwys Scott Parker, y gol geidwad Robert Green a’r blaenwr Carlton Cole.

Er bod eu clwb wedi disgyn o’r Uwch Gynghrair, mae’r tri wedi aros gyda’r Hammers.

Y capten tebygol fydd Kevin Nolan wrth i ddau reolwr newydd wynebu’i gilydd, Malky Mackay i Gaerdydd a Sam Allardyce i West Ham.

Mackay’n croesawu Miller ac Earnshaw

Mae Mackay’n un o gyn chwaraewyr y clwb o Lundain ac fe fydd yntau’n chwilio am berfformiad cry’ gan res o chwaraewyr newydd.

Y blaena’ o’r rheiny fydd y ddau ymosodwr, Kenny Miller a Robert Earnshaw, sy’n cymryd lle dau o sêr y blynyddoedd diwetha’, Jay Bothroyd a Michael Chopra.

Er ei fod eisiau arwyddo rhagor o chwaraewyr cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, mae Mackay wedi pwysleisio mai Miller ac Earnshaw oedd ei brif dargedi.