Stadiwm Liberty
Mae rheolwr Stoke, Tony Pulis, yn credu bod rhaid i Abertawe gadw at eu hegwyddorion os ydyn nhw am fyw trwy eu tymor cynta’ yn yr Uwch Gynghrair.
Ac mae newyddion da i’r clwb gyda phob argoel bod tri chwaraewr pwysig ar fin arwyddo cytundebau tymor hir i aros yn y Liberty.
Fe ddywedodd y Cymro, Pulis, wrth BBC Sport fod modd i’r rheolwr Brendan Rodgers gadw’r Elyrch i fyny: “Dw i’n meddwl bod Brendan yn ddigon deallus i wybod beth mae e eisiau, a sut i fynd o’i chwmpas hi,” meddai.
“Yn y pen draw, dwi wastad wedi dweud wrth bob rheolwr fod rhaid bod yn ffyddlon i’ch cymeriad eich hunan. Peidiwch â newid.”
Y chwaraewyr sy’n debyg o arwyddo eto yw Tom Butler, Nathan Dyer a Joe Allen, gydag Allen yn dweud ei fod yn awyddus i aros gydag Abertawe.
Nathan Dyer oedd un o sêr y tymor diwetha’ ac mae yntau wedi dechrau trafod cytundeb newydd – blwyddyn sydd ganddo ar ôl ar ei gytundeb presennol.
Mynd am goli
Mae Brendan Rodgers yn dweud ei fod yn hyderus hefyd o gipio Lee Camp, y gôl geidwad, o Nottingham Forest.
Mae Abertawe’n awyddus i arwyddo golwr Benfica, Jose Moreira ar ôl i Dorus de Vries fynd i Wolves, ond fe allai Camp gynnig cystadleuaeth yn ogystal â chymorth wrth gefn.
Mae adroddiadau’n honni fod Abertawe wedi cynnig tua £1 miliwn amdano, ac mae’n bosib y gall Forest gytuno wedi i Camp wrthod estyniad i’w gytundeb yn y City Ground.