Cwrs y Royal St George yn Sandwich (o wefan y clwb)
Mae un o golffwyr amlyca’ Cymru’n cydnabod ei fod “mewn penbleth” dros ei ddiffyg llwyddiant ar ôl methiant arall ym Mhencampwriaeth Agored Prydain.
Ar ôl dechrau addawol i’r tymor, fe fethodd Rhys Davies a chyrraedd ail hanner y penwythnos yn yr ‘Open’ yn Sandwich.
Dyma’r trydydd tro i’r chwaraewr o Ben-y-bont ar Ogwr gynnig yn y Bencampwriaeth a’r trydydd tro iddo fethu ag osgoi cael ei dorri allan ar ôl deuddydd.
‘Anodd’
“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn allan yna,” meddai wrth y BBC ar ôl cael ail rownd o 78 a gorffen 13 ergyd yn waeth na’s safon. “Dw i mewn penbleth ar y foment oherwydd dydi pethau ddim yn mynd fy ffordd i.
“Os dwi’n onest, o’n i’n teimlo medrwn i wneud yn dda yma, ond dyw pethau ddim wedi gweithio mas fel yna.”
Ef oedd gobaith mwya’r Cymry wrth i ddau arall – Mark Laskeey a Simon Edwards – hefyd fethu â symud ymlaen i’r ail gymal.
Ond mae Rhys Davies yn dweud ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i weithio’n galed wedi’i siomedigaeth er mwyn cywiro’r gwallau yn ei gêm.
A’r lleill
Roedd Laskey’n cystadlu yn ei ‘Open’ cyntaf, ac fe orffennodd ar +9 wedi cyfanswm o 149 dros y ddau ddiwrnod cyntaf. Ond, roedd ei ymateb i’r profiad yn un positif gan ddweud ei fod wedi chwarae’n dda dri chwarter yr amser.
Roedd hyd yn oed Simon Edwards o Wrecsam yn canmol y profiad o gael bod yn Sandwich – er ei fod 21 ergyd yn waeth na’r safon wedi’i ail rownd.
“Roedd yn berfformiad gwael eto, ac roedd y cwrs yn anodd, ond mae’n dal i fod yn bleser cael bod yma,” meddai wrth y BBC.
Gogledd Iwerddon yn llwyddo
Doedd dim sôn am weddill golffwyr addawol Cymru – Bradley Dredge, Phillip Price, Stephen Dodd a Jamie Donaldson – a fydd hi ddim yn bosib defnyddio maint y wlad yn esgus, wrth i golffwyr Gogledd Iwerddon gipio teitl arall.
Darren Clarke a enillodd neithiwr, gan ddilyn Rory McIlroy ym Mhencampwriaeth agored yr Unol Daleithiau fis yn ôl, a Graeme McDowell yn cipio’r un bencampwriaeth y llynedd.