Brendan Rodgers
Mae Abertawe â’u bryd ar ddod a sawl chwaraewr newydd i’r clwb, wrth iddynt geisio adeiladu carfan sydd â’r gallu i gystadlu yn yr Uwch-Gynghrair yn Lloegr.
Mae’r sianel deledu Almaenaidd Deutsche Welle TV wedi adrodd fod swyddogion o glwb TSG Hoffenheim ac Abertawe yn cwrdd heddiw er mwyn dod i gytundeb ar werthiant yr amddiffynnwr Isaac Vorsah i’r Elyrch.
Mae’r gŵr o Ghana wedi creu cryn ddiddordeb ymysg nifer o glybiau ar hyd a lled Ewrop, gan gynnwys clwb arall o’r Almaen, Borussia Monchengladbach.
Hefyd, mae si y gall Abertawe gipio’r ymosodwr dawnus, Jonathan Soriano, o Barcelona. Efe oedd prif sgoriwr Barcelona B yn ail adran Uwch Gynghrair Sbaen gyda 26 o goliau’r flwyddyn ddiwethaf, ond fe fydd rhaid dwyn sylw’r chwaraewr ifanc at botensial Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr, oherwydd mae gan Wigan Athletic, Udinese a Marseille gryn ddiddordeb ynddo hefyd.
“Mae ganddo (Soriano) y ddawn sydd yn cyd-fynd gyda’n harddull ni o chwarae, yr arddull yr ydym yn credu ynddo, ac rydym ni’n obeithiol y bydd o’n dewis dod yma,” meddai Huw Jenkins, cadeirydd Abertawe, gan gyfeirio at ffurf rydd a chreadigol y clwb o chwarae; y math o bêl-droed sydd wedi peri nifer i roi’r llysenw ‘Swansealona’ iddynt.
Colli a chadw
Mae’r clwb eisoes wedi colli gafael ar Darren Pratley, y chwaraewr ganol cae dylanwadol a Dorus de Vries, eu golwr dewis cyntaf.
Yrr wythnosau diwethaf, cynigwyd contract estynedig i’r amddiffynnwr o Sbaen, Angel Rangel, i aros gyda’r Elyrch am dair blynedd arall.
Mae Stephen Caulker, yr amddiffynnwr 19 oed o Tottenham Hotspur, hefyd wedi llofnodi cytundeb sy’n cadarnhau ei bresenoldeb ef yn Stadiwm Liberty am y tymor nesaf o leiaf. Mae gan Abertawe wedyn yr opsiwn i ymestyn y cyfnod hwnnw ymhellach.
Maen nhw hefyd wedi talu £3.5 miliwn am Danny Graham, yr ymosodwr o Watford.
Mae Huw Jenkins, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, a Brendan Rogers, yr hyfforddwr, yn awyddus iawn i ddod a Marvin Emnes, yr ymosodwr o Middlesborough, i’r Liberty ar gytundeb parhaol wedi ei gyfnod llwyddiannus gyda’r Elyrch arfenthyg y tymor diwethaf.
Bu sôn hefyd am selio llofnod Leroy Lita, hefyd o Middlesborough, ynghyd ag Emnes ond does dim datblygiadau wedi bod i’r stori honno.