Rhodri Gomer-Davies
Mae Llanelli wedi mynd ati i gryfhau eu carfan drwy ychwanegu tri enw newydd i’r rhes gefn.

Y nod yw ymdopi gydag absenoldebau anochel yn ystod deufis cyntaf y tymor newydd, pan fydd nifer o chwaraewyr allweddol y rhanbarth yn cynrychioli eu gwledydd yn Seland Newydd.

Bydd Rhodri Gomer-Davies, cyn-ganolwr Y Dreigiau; Rhys Jones, mab i Kingsley Jones fu’n gyn-reolwr yn Sale; yn ogystal ag Aled Thomas, cyn-faswr y Dreigiau a Chymry Llundain, oll yn ymuno a charfan Y Scarlets cyn dechreuad y tymor nesaf.

Mae saith chwaraewr o res gefn y clwb wedi eu cynnwys yng ngharfan ymarfer Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Yn ogystal â hynny, bydd Sean Lamont yn sicr o deithio gyda’r Alban, ac mae Regan King eisoes wedi gadael am Clermont Auvergne.

Mae hefyd yn bur debyg na fydd Gareth Maule yn dychwelyd i’r cae tan ganol mis Medi, wedi llawdriniaeth ar anaf i’w ysgwydd.

Mae’r chwaraewyr newydd oll yn rhai amlbwrpas sy’n medru llenwi bylchau ar draws y rheng-ôl; Gomer-Davies yn ganolwr a Jones a Thomas ill dau’n medru chwarae safle’r maswr er mwyn darparu gorchudd yn absenoldeb Stephen Jones a Rhys Priestland.

Mae arwyddo’r chwaraewyr newydd yn newyddion da i gefnogwyr Llanelli, sy’n disgwyl cychwyn anodd i’r ymgyrch newydd a hwythau heb nifer o’u chwaraewyr amlycaf.

Yn y cyfamser, mae’r Scarlets wedi cael eu gwahodd i chwarae mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Clermont Auvergne yn Ffrainc y mis nesaf.

Bydd hwn yn aduniad cynharach na’r disgwyl felly i Regan King a rhai o’i gyn cyd-chwaraewyr, wedi iddo arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r cewri Ffrengig yn ddiweddar.