Malcolm 'Malky' Mackay
Mae un o amddiffynnwr Caerdydd yn disgwyl i’r Adar Gleision chwarae steil gwahanol o bêl-droed dan arweiniad eu rheolwr newydd Malky Mackay. 

Ymunodd Malcolm ‘Malky’ Mackay â chlwb y brifddinas yr wythnos ddiwethaf, ac mae wedi dweud ei fod yn awyddus i chwarae gyda thempo uchel yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Mae Mark Hudson, a fydd yn brwydro am le yng nghanol yr amddiffyn gyda Dekel Keinan ac Anthony Gerrard, yn disgwyl newidiadau. 

“Mae gan bob rheolwr ei steil o chwarae ac rwy’n siŵr y bydd yna newidiadau yn y ffordd byddwn ni’n chwarae o dan Malky o gymharu gyda’r hyn oedden ni’n ei wneud gyda Dave Jones,” meddai Mark Hudson ar wefan swyddogol y clwb. 

“Mae’n rhaid i ni dderbyn y newidiadau a pherfformio ar y cae.  Roedd Dave Jones yn rheolwr am gyfnod hir ond mae’n ddechrau cyfnod newydd gyda Malky Mackay.

“Rwy’n credu iddo wneud gwaith ardderchog gyda Watford ac mae’n gyffrous iawn i’w gael wrth y llyw yng Nghaerdydd.”