Craig Bellamy yn lifrai'r Adar Gleision
Yn ôl John Hartson fe fyddai hi’n well i Craig Bellamy ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer y tymor nesaf, yn hytrach nag ymuno gyda Celtic. 

Gyda Bellamy yn ceisio dod yn rhydd o’i gytundeb gyda Manchester City, does dim diddordeb ganddo chwarae i glwb arall yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

Mae’r Adar Gleision yn awyddus i arwyddo’r Cymro unwaith eto, ar ôl i Bellamy dreulio’r tymor diwethaf yn chwarae i glwb y brifddinas. 

Mae rheolwr Celtic, Neil Lennon, hefyd yn awyddus i’w arwyddo ac yn gobeithio temptio’r Cymro i ddychwelyd i Glasgow am yr ail dro yn ei yrfa. 

Ond mae John Hartson – Cymro arall sydd wedi chwarae i Celtic – yn credu byddai’r nifer o gemau sydd gan y clwb o Glasgow I’w chwarae yn y gynghrair, y cwpanau ac yn Ewrop yn straen ar Bellamy. 

Mae’r ymosodwr wedi cael problemau gyda’i bengliniau yn ystod ei yrfa, a bu rhaid iddo ddewis ei gêmau i Gaerdydd yn ofalus llynedd er mwyn osgoi anafiadau pellach. 

“Fe fydden ni wrth fy modd yn gweld Craig yn dychwelyd i Celtic, ond nid yw’r un chwaraewr a beth oedd e’ chwe blynedd ‘nôl,” meddai John Hartson wrth bapur The Daily Record

“Mae’n 32 nawr ac mae wedi cael llawer o broblemau gyda’i bengliniau.  Ond mae’n gwybod sut i ennill gêmau ac fe fyddai’n ychwanegu safon at garfan Celtic.

“Ond roedd Craig yn gallu dewis ei gêmau i Gaerdydd y llynedd ac roedd yn gallu bod y absennol am gwpl o gêmau os oedd ei bengliniau yn peri gofid iddo.

 “Mae gyda Celtic lawer o gêmau i’w chwarae yn yr Alban ac yn Ewrop.”