Geraint Thomas
Mae hwyliau Geraint Thomas yn dal i fod yn uchel wrth iddo ffeindio’i hun mewn safle da cyn pumed cymal y Critérium du Dauphiné.

Eisoes mae’r Cymro wedi cael dau gymal llwyddiannus iawn a bellach yn y chweched safle yn ei ras ryngwladol fawr olaf cyn y Tour de France.

Echdoe, fe orffennodd Thomas yn seithfed yn y trydydd cymal, gan godi i’w safle presennol. Roedd yn ddiwrnod da i’w dîm, Team Sky, wrth i Bradley Wiggins orffen yn ail gan ei roi yn y crys melyn fel arweinydd y ras.

Gwneud ei ddyletswydd

Roedd y pedwerydd cymal ddoe yn dechrau yn La Motte-Servolex ac yn gorffen ym Mâcon, ac roedd y Cymro’n arwain y peloton wrth iddyn nhw nesáu at y llinell derfyn yng nghanolbarth Ffrainc.

Gwneud ei ddyletswydd i’w dîm oedd Thomas, gan obeithio lansio’r gwibiwr Edvald Boasson Hagen i fuddugoliaeth.

Yn anffodus i Sky, llwyddodd John Degenkolb o dîm HTC-Highroad i gipio’r sbrint o drwch blewyn.

Datblygu ers llynedd

Roedd cyfarwyddwr chwaraeon tîm Sky yn llawn canmoliaeth i’r Cymro ar ddiwedd y cymal.

 “Daeth G [Geraint Thomas] i’r blaen tuag at derfyn y cymal gan wneud gwaith gwych i Edvald,” meddai Sean Yates.

“Fe gododd G i lefel arall yn y ras yma llynedd ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn seiclwr gwych. Mae’n feistr o ran pŵer a gosod ei hun mewn safle yn y 10k diwethaf.”

 Mae Geraint Thomas 2 funud a 25 eiliad y tu ôl Wiggins ar hyn o bryd, a hefyd yn ail yng nghystadleuaeth y seiclwyr ifanc – cwta 13 eiliad ar ôl Rui Alberto  Faria Da Costa o Bortiwgal.

Cymal pump heddiw ydy’r pellaf yn y ras, yn 207.5km rhwng Parc des Oiseaux – Villars les Dombes a Les Gets gan arwain y seiclwyr i’r Alpau a llinell derfyn ar frig Montée des Gets.