Mae Dinas Bangor wedi sicrhau na fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu coroni tan ddiwrnod olaf y tymor wedi eu buddugoliaeth yng Nghastedd Nedd ddoe.
Roedd disgwyl i’r Seintiau Newydd gipio’r bencampwriaeth adref yn erbyn Llanelli ddoe, wrth i Fangor wynebu taith anodd i Gastell Nedd, ond nid felly y bu.
Y Seintiau Newydd 3 – 1 Llanelli
Fe lwyddodd Y Seintiau i drechu Llanelli o 3 – 1, er i’r ymwelwyr roi gêm galed iddyn nhw.
Aeth Y Seintiau ar y blaen wedi 14 munud, gyda Chris Sharp yn sgorio, ond roedd Llanelli’n gyfartal wyth munud yn ddiweddarach – prif sgoriwr y gynghrair, Rhys Griffiths yn penio i’r rhwyd.
Er hyn, y tîm cartref reolodd yr ail hanner a seliwyd y fuddugoliaeth gyda dwy gôl mewn pum munud. Chris Sharp sgoriodd y gyntaf wedi 54 munud ac yna Matty Williams yn sgorio o’r smotyn bum munud yn ddiweddarach.
Castell Nedd 1 – 2 Dinas Bangor
Mae wedi bod yn benwythnos da i Fangor wrth i’w gobeithion o gipio’r gynghrair gael eu hadfywio.
Roedd Castell Nedd eisoes wedi gwneud un ffafr â Bangor dros y penwythnos wedi iddynt guro’r Seintiau Newydd yn annisgwyl o 3 – 2 nos Wener.
Yna llwyddodd Bangor i drechu Port Talbot oddi cartref o 2 – 1 ddydd Sadwrn i ddod nôl o fewn pwynt i frig y gynghrair.
Dangosodd Bangor eu penderfyniad gyda buddugoliaeth wych o 2 – 1 yng Nghastell Nedd ddoe. Sgoriodd Craig Garside ddwy gôl yn yr hanner cyntaf i’r ymwelwyr, ac er i Lee Trundle rwydo i’r tîm cartref naw munud o’r diwedd, llwyddodd Bangor i gipio’r pwyntiau llawn.
Diweddglo delfrydol
Mae canlyniadau’r penwythnos diweddglo delfrydol i’r tymor, wrth i’r Seintiau Newydd deithio i Fangor ar gyfer y gêm dyngedfennol ddydd Sadwrn.
Mae’n rhaid i Fangor ennill y gêm honno, ond bydd gêm gyfartal yn ddigon i’r Seintiau ar Ffordd Ffara.
Fe fydd y gêm fawr yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, y rhaglen i ddechrau am 3:00.
Port Talbot 1 – 1 Prestatyn
Fe orffennodd gêm arall dydd Llun y Pasg yn gyfartal ym Mhort Talbot.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf gyda gôl i Lloyd Grist, cyn i Lee Hunt ddod a’r sgôr yn gyfartal gyda chic o’r smotyn wedi 55 munud.