Gareth Bale
Dywed Gareth Bale ei fod yn dal i obeithio gweld Tottenham yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr – er iddyn nhw golli 4-0 yn erbyn Real Madrid yn y cymal cyntaf.
Er gwaethaf yr her sy’n wynebu tîm Harry Redknapp, mae asgellwr Cymru wedi galw am optimistiaeth o flaen yr ail gymal yn White Hart Lane.
“Mae unrhyw beth yn gallu digwydd mewn pêl droed. Mae ‘na sawl gêm anhygoel wedi bod yn y gorffennol,” meddai Gareth Bale.
“Ry’n ni’n mynd i ymdrechu a pheidio rhoi’r gorau iddi. Mae’n mynd i fod yn her sydd bron yn amhosib, ond ry’n ni’n mynd i weld beth sy’n digwydd.
“Rwy’n gobeithio gallwn ni gynhyrchu gwyrth. Mae’n rhaid i ni fod yn fwy optimistaidd. Fe fyddwn ni’n mynd allan am y fuddugoliaeth o’r eiliad gyntaf.”
Mae Gareth Bale wedi dweud unwaith eto ei fod yn hapus i aros gyda Tottenham ar ôl cael ei gysylltu gyda nifer o brif glybiau Ewrop, gan gynnwys Real Madrid.
“Rwy’n hapus gyda Tottenham. Mae’n dîm ifanc ac rwy’n hapus yma. Rwyf wedi datblygu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae ’na fwy i ddod.”