Brendan Rodgers, rheolwr Abertawe
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud bod ei dîm wedi gwastraffu cyfle am fuddugoliaeth arall ar ôl i Hull City sicrhau gêm gyfartal yn Stadiwm Liberty. 

 Roedd Mark Gower wedi rhoi Abertawe ar y blaen wedi 63 munud gydag ergyd wych arall cyn i Corey Evans unioni’r sgôr saith munud yn ddiweddarach i ymestyn rhediad diguro oddi cartref y Teigrod i 16 gêm. 

 Mae’r canlyniad yn gweld yr Elyrch yn aros yn y pedwerydd safle, dau bwynt tu ôl i Gaerdydd sy’n ail yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd. 

 “Roedd yn siomedig iawn. Roedden ni wedi gweithio mor galed i fynd ar y blaen ac roedd ein chwarae yn ardderchog ar adegau,” meddai Brendan Rodgers. 

 “Ond ar ôl i ni sgorio’r gôl roedden ni’n eu haeddu, fe daflwyd y cyfan i ffwrdd gan adael iddynt sgorio gôl wan oddi ar dafliad.

 “Roedden ni mewn safle gwych, ond dy’n ni ond wedi cael un pwynt pan ddylen ni fod wedi cael y pwyntiau llawn.

 “Fe fydd rhaid i ni anghofio am y canlyniad yma a dechrau eto.”