Didier Drogba
Mae ymosodwr Abertawe, Fabio Borini, wedi dweud fod Didier Drogba wedi ysbrydoli ei gic rydd yn erbyn Norwich dros y penwythnos.

Fe sgoriodd Borini, sydd ar fenthyg wrth Chelsea, gôl agoriadol yr Elyrch wrth iddynt faeddu Norwich 3-0 yn y Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

“Dyna’r gic rydd gyntaf ydw i wedi ei gymryd mewn gêm a Drogba oedd wedi fy ysbrydoli. Dw i wedi ymarfer gydag ef yn Chelsea ac roeddwn ni’n arfer ei wylio yn ymarfer ei giciau rhydd,” meddai Borini.

“Mae’r dechneg y mae’n ei ddefnyddio yn un anodd. Roeddwn i wedi gweithio’n galed arno yn yr ymarferion yn ystod yr wythnos.

“Roedd yn wych i’w weld yn mynd mewn ac rwy’n credu y byddai Drogba wedi bod yn hapus i sgorio hwnna.”

Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi canmol yr ymosodwr am ei gyfraniad ers ymuno ar fenthyg oddi wrth Chelsea.

“Mae’n gallu sgorio goliau ond mae’n barod i fod chwarae rhan ragor anweledig o fewn y tîm. Dyna’r union rinweddau sydd eu hangen arnom ni yn ystod y cyfnod yma.”