Mae Abertawe a Caerdydd o fewn blewyn i’r ail safle yn y Bencampwriaeth ar ôl i’r ddau dîm ennill heddiw.

Meddodd Caerdydd Doncaster sydd yn yr 20fed safle diolch i ddwy gôl hwyr iawn heddiw, ond sicrhaodd Abertawe fuddugoliaeth fwy trawiadol drwy guro Norwich, sydd yn yr ail safle, 3 – 0.

Mae’r canlyniad yn golygu fod pethau’n hynod o dynn yn y ras am yr ail safle a dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Norwich ar 70 pwynt, a Caerdydd ac Abertawe ar 69 pwynt yr un – ac ar yr un faint o goliau.

I wneud pethau’n fwy diddorol collodd QPR, sydd ar frig y tabl â 79 pwynt, o 4 – 1 yn erbyn Scunthorpe sydd mewn perygl o gwympo i lawr i Gynghrair Un ar ddiwedd y tymor.

Daeth y ddwy gôl gan Abertawe yn yr hanner cyntaf, y cyntaf ar ôl pum munud yn unig drwy Fabio Borini, a darodd cic rydd i gefn y rhwyd o 25 llath.

Sgoriodd Mark Gower yr ail toc cyn hanner awr o’r chwarae, gyda foli o ymyl y bocs, a daliodd yr Elyrch ymlaen nes eiliadau olaf y gêm i daro’r hoelen olaf yn arch Norwich.

Fel yn gêm Caerdydd eilydd, Tamas Priskin, sgoriodd y gôl olaf, a hynny ar ôl y 90 munud o’r tu mewn i’r cwrt cosbi.