Jason Koumas
Maeddodd Caerdydd Doncaster oddi cartref heddiw diolch i ddwy gôl gan Jason Koumas ym munudau olaf y gêm.

Sgoriodd yr eilydd yn y 90ain a’r 95ain munud er mwyn sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus yr olwg 1 – 3 i’r Adar Glas yn y Bencampwriaeth.

Dim ond tair munud oedd Koumas wedi bod ar y cae pan sgoriodd ei gôl gyntaf gyda chic rydd o 25 llath. Sgoriodd ei ail o’r gêm – a’r tymor – ar ol pas gan Craig Bellamy.

Roedd y fuddugoliaeth yn un hanfodol i Geardydd sy’n drydydd yn y Bencampwriaeth a pwynt ar ei hol hi i Norwich, sy’n wynebu Abertawe heddiw.

Roedd Caerdydd wedi mynd yn y blaen ar ôl gôl gan Chris Burke wedi 15 munud, ond fe darodd Doncaster yn ôl yn yr ail hanner gyda gôl gan James Coppinger.